Morgannwg yw pencampwyr y gystadlaeuth ugain pelawd i ail dimau’r siroedd, ar ôl curo Swydd Nottingham a Hampshire ar Ddiwrnod y Ffeinals yn Arundel ddoe (dydd Iau, Awst 15).

Dyma’r tro cyntaf i ail dîm y sir ennill tlws ers iddyn nhw ennill cystadleuaeth dan 25 oed Warwick Pool yn 1981.

Mae’r ail dîm wedi gwneud cryn dipyn yn well na’r tîm cyntaf, sy’n dal i geisio’u buddugoliaeth gyntaf yn y Vitality Blast.

Y gêm gyn-derfynol

Roedden nhw’n fuddugol o 105 o rediadau dros Swydd Nottingham yn y gêm gyn-derfynol, wrth iddyn nhw sgorio 204 am bedair mewn ugain pelawd.

Nick Selman oedd seren y batiad, wrth daro 115 heb fod allan oddi ar 59 o belenni, sydd un rhediad yn brin o record y sir mewn gemau ugain pelawd, ond yn record yn y gystadleuaeth hon, gan guro 109 heb fod allan David Lloyd yn erbyn Surrey yn 2015.

Tarodd e chwe phedwar a phum chwech yn y batiad, wrth iddo sgorio canred am y tro cyntaf erioed mewn gêm ugain pelawd.

Ymhlith y bowlwyr, cipiodd Kazi Szymanski bedair wiced am 18 ac fe gafodd e gefnogaeth dda gan Roman Walker ar ddechrau’r batiad i osod seiliau’r fuddugoliaeth a bowlio’r gwrthwynebwyr allan am 99.

Y rownd derfynol

Er iddyn nhw roi crasfa i Swydd Nottingham, fe ddechreuon nhw’n wael yn erbyn Hampshire yn y rownd derfynol.

Roedden nhw’n 31 am dair ar ddiwedd y cyfnod clatsio, wrth i Hampshire barhau i berfformio’n dda ar ôl curo Durham yn y rownd gyn-derfynol.

Ond daeth achubiaeth i Forgannwg diolch i Billy Root, a darodd 49 oddi ar 47 o belenni wrth i Forgannwg sgorio 122 am saith mewn ugain pelawd.

Cyfunodd Roman Walker a Kazi Szymanski yn gynnar yn y batiad i roi Hampshire dan bwysau, wrth iddyn nhw lithro i 11 am dair o fewn dim o dro.

Goroesodd Hampshire rannau helaeth o’r batiad i adael nod o 53 oddi ar y chwe phelawd olaf, diolch yn bennaf i fatio cadarn Ian Holland.

Parhau i golli wicedi wnaeth Hampshire ond fe gyrhaeddodd Ian Holland ei hanner canred oddi ar 42 o belenni, i adael nod o wyth rhediad oddi ar y belawd olaf gan Roman Walker.

Un rhediad oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm ar ddiwedd y gêm, a Morgannwg yn dychwelyd i Gymru â’r tlws.