Mae’r Awstraliad Shaun Marsh wedi’i gynnwys yng ngharfan griced Morgannwg i herio Surrey mewn gêm ugain pelawd yn y Vitality Blast yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sul, Awst 11).

Mae’r batiwr llaw chwith yn dychwelyd ar ôl torri ei fraich yn ystod Cwpan y Byd, ar ôl iddo fe gael ei daro gan belen gan Pat Cummins, ei gydwladwr, yn y rhwydi wrth ymarfer.

“Mae’n dda cael bod yn ôl,” meddai wrth ddychwelyd i’r brifddinas.

“Ges i ychydig wythnosau adref yn Perth, felly mae cael bod yn ôl yma a gweld y bois eto heddiw wedi bod yn deimlad gwych.

“Mae’r holl anafiadau wedi bod yn rhwystredig, ond mae’n braf cael dychwelyd yma fel dywedais i, a gobeithio y galla i fynd allan ddydd Sul a chael rhediadau ar y bwrdd.”

Fe fydd e hefyd ar gael ar gyfer gweddill y tymor i Forgannwg, wrth iddyn nhw fynd am ddyrchafiad i adran gynta’r Bencampwriaeth.

Sawl chwaraewr yn dychwelyd

Yn ogystal â Shaun Marsh, mae sawl chwaraewr arall yn dychwelyd i’r garfan ar ôl gwella o anafiadau.

Mae Ruaidhri Smith, y chwaraewr amryddawn o’r Alban, yn y garfan am y tro cyntaf y tymor hwn.

Cipiodd e bum wiced wrth chwarae i’r ail dîm ar ei ben-blwydd yr wythnos ddiwethaf.

Ac mae lle yn y garfan hefyd i Dan Douthwaite, y chwaraewr amryddawn ifanc.

Dydy Sam Curran ddim ar gael i Surrey oherwydd ei ymrwymiadau gyda charfan Lloegr, felly daw Amar Virdi i mewn yn ei le.

Carfan Morgannwg: C Ingram (capten), Fakhar Zaman, D Lloyd, S Marsh, C Cooke, C Taylor, J Lawlor, O Morgan, D Douthwaite, G Wagg, L Carey, M de Lange, R Smith, A Salter

Carfan Surrey: A Finch (capten), G Batty, S Borthwick, J Clark, R Clarke, T Curran, B Foakes, W Jacks, R Patel, O Pope, M Stoneman, I Tahir, A Virdi

Sgorfwrdd