Pe bai’r stormydd sy’n addo taro Cymru heno’n cilio, fe allai Chris Cooke ymddangos yn ei ganfed gêm ugain pelawd i Forgannwg, wrth iddyn nhw herio Essex yn y Vitality Blast yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.

Dim ond dau o gricedwyr eraill y sir, Dean Cosker a’r Cyfarwyddwr Criced presennol Mark Wallace, sydd wedi cyrraedd y nod, y naill wedi chwarae mewn 128 o gemu a’r llall mewn 136.

“Mae Cookey wedi bod yn grêt i ni,” meddai Mark Wallace wrth golwg360 wrth dalu teyrnged iddo ar drothwy’r gamp, gan ddweud ei fod yn deilwng o gyrraedd y nifer fwyaf o gemau erioed i’r sir.

“Mae’n dipyn o gamp i Chris, ac yntau wedi dod i mewn i griced sirol yn hwyr o Dde Affrica.

“Fe wnaeth ei orau i gyrraedd drwy sawl sir, ond fe gafodd ei gyfle gyda Morgannwg yn syth o’i gêm gyntaf, wrth daro 22 oddi ar chwe phelen mewn gêm ugain pelawd yn erbyn Middlesex yn 2011.

“Ers hynny, does dim stop arno fe. Dyw e ddim yn cael ei werthfawrogi digon fel chwaraewr o gwmpas y wlad o ran y dylanwad mae’n ei gael.

“Ac ers cymryd y menyg, mae e wedi dangos ei ddoniau fel wicedwr hefyd.”

Denu chwaraewyr tramor yn rhwystredigaeth

Yn y cyfamser, mae Mark Wallace yn dweud bod sefyllfa chwaraewyr tramor y sir y tymor hwn wedi peri cryn dipyn o rwystredigaeth.

Ar ôl arwyddo’r Awstraliad Shaun Marsh am y tymor cyfan, fe gafodd ei alw i’r garfan genedlaethol ac fe dorrodd ei fraich wedyn, ac fe fu’n rhaid i Forgannwg droi at ei gydwladwr Marnus Labuschagne yn ystod hanner cynta’r tymor.

Ac roedd ei frawd, Mitchell Marsh, wedi’i arwyddo ar gyfer y Vitality Blast cyn cael ei alw’n annisgwyl i garfan Awstralia ar gyfer y daith i Loegr, sy’n cynnwys Cyfres y Lludw.

Erbyn hyn, mae Fakhar Zaman, y batiwr llaw chwith o Bacistan, yn chwarae i’r sir, ond mae hwnnw wedi cael dechrau sigledig yng Nghymru, ond wedi cael cais i aros am dair gêm ychwanegol.

Croesawu Shaun Marsh yn hwyr

“Roedd yr anaf i Shaun yn gryn ergyd, felly mae ei gael e hanner ffordd drwy’r gystadleuaeth yn well na dim,” meddai Mark Wallace.

“Ond mae’n dal yn peri rhwystredigaeth ein bod ni, ar ddechrau’r tymor, yn disgwyl y byddai’n dod am y tymor cyfan.

“Mae’r pethau hyn yn digwydd ac mae’n achosi rhywfaint o anhrefn.”

Ffarwelio â Marnus Labuschagne

Tra bydd Morgannwg yn rhoi croeso cynnes i Shaun Marsh, a fydd ar gael i herio Surrey ddydd Sul, fe fyddan nhw’n gweld eisiau Marnus Labuschagne, chwaraewr gorau’r sir y tymor hwn o bell ffordd.

“Mae’n ergyd yn yr ystyr ei fod e wedi bod yn hollol wych,” meddai Mark Wallace.

“Mae ei ddylanwad yn yr ystafell newid wedi bod yn wych hefyd.

“Mae’n siŵr y byddwn ni’n ei weld e rywbryd yng Nghyfres y Lludw i Awstralia, ond gobeithio y bydd Shaun yn dod i mewn ac yn parhau â gwaith da Marnus.”

Mitchell Marsh yn methu dod

Pe bai Mitchell Marsh wedi gallu dod i Forgannwg, fe fydden nhw wedi gallu cynnwys brodyr yn yr un tîm am y tro cyntaf ers dros ddegawd.

Pan gytunodd Mitchell Marsh ym mis Mawrth i ddod i Forgannwg, roedd e newydd golli ei gytundeb gydag Awstralia, ac roedd hi’n edrych yn debygol na fyddai’n chwarae ar y llwyfan rhyngwladol am beth amser eto.

“Ar ôl i ni ei arwyddo fe, aeth popeth o’i blaid e ac yn ein herbyn ni, felly roedd yn risg i’w ddenu fe yma gyda’r Lludw ar y gorwel,” meddai Mark Wallace.

Fakhar Zaman – perfformiadau cymysg

Wrth i Shaun Marsh lanio yng Nghymru, mae cyfnod Fakhar Zaman gyda’r sir yn dirwyn i ben, er ei fod e wedi cytuno i aros am dair gêm ychwanegol i’w gytundeb gwreiddiol.

Perfformiadau digon cymysg gafwyd ganddo fe, wrth iddo fe daro un hanner canred mewn pum gêm wrth sgorio 58 yn erbyn Swydd Gaerloyw yng Nghaerdydd, ac fe ddaeth un o’i berfformiadau gorau gyda’r bêl, wrth i’r troellwr llaw chwith achlysurol gipio un wiced am 15 yn erbyn Hampshire.

“Mae e wedi dangos rywfaint o’r hyn mae’n gallu ei wneud,” meddai Mark Wallace.

“Chwaraeodd e’n dda o flaen y camerâu teledu, ac fe ddangosdd e rywfaint o’i ddoniau gyda’r bêl y noson o’r blaen.

“Ond mae e wedi bod yn eithaf anghyson, a dyna thema ein hymgyrch ni ar y cyfan.

“Dydy ein perfformiadau ddim yn adlewyrchu’r doniau sydd yn y garfan.

“Dyw pethau ddim wedi gweithio allan iddo fe ond dyna’r risg o ran gemau ugain pelawd.

“Mae’n fformat eitha’ hectic, ac mae disgwyl i bobol ddod i mewn a pherfformio’n dda ar unwaith. Ond mae’n dipyn o loteri.”

Tîm Morgannwg: D Lloyd, Fakhar Zaman, J Lawlor, C Ingram (capten), C Cooke, C Taylor, O Morgan, G Wagg, A Salter, M Hogan, M de Lange

Tîm Essex: T Westley, C Delport, A Wheater, R ten Doeschate, D Lawrence, R Bopara, P Walter, S Harmer (capten), Mohammad Amir, A Beard, A Zampa

Sgorfwrdd