Fe ddioddefodd tîm criced Morgannwg grasfa arall ar gae Hove neithiwr (nos Fawrth, Awst 6), wrth iddyn nhw golli o naw wiced yn erbyn Sussex yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast.

Sgorion nhw 146 am naw yn eu hugain pelawd, cyn i’r Saeson gyrraedd y nod mewn 13.5 pelawd, gan adael y sir Gymreig heb fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth o hyd.

Dim ond David Lloyd (50), y chwaraewr amryddawn o Wrecsam, gyrhaeddodd ei hanner canred wrth i fatwyr Morgannwg fethu â thanio unwaith eto.

Ond perfformiodd batwyr Sussex dipyn gwell, wrth i Phil Salt, sy’n enedigol o Fodelwyddan, daro 78 heb fod allan, a’i bartner Luke Wright yn sgorio 56 cyn cael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Michael Hogan.

Batiad Morgannwg ar chwâl eto

Ond bydd y golled hon, fel y rhai blaenorol, yn cael ei chofio’n bennaf am berfformiad gwael batwyr Morgannwg.

Fe ddechreuodd y cyfan pan gafodd Fakhar Zaman, y batiwr llaw chwith o Bacistan, gael ei ddal yn sgwâr ar ochr y goes gan Phil Salt oddi ar fowlio Tymal Mills yn niwedd y cyfnod clatsio.

Cafodd Jeremy Lawlor ei ddal gan yr un maeswr oddi ar fowlio’r troellwr Danny Briggs yn y nawfed pelawd, a’r sgôr erbyn hynny’n 56 am ddwy.

Daeth y drydedd wiced yn fuan wedyn, pan gafodd David Lloyd ei ddal gan Laurie Evans oddi ar yr un bowliwr, a’r sgôr yn 71 am dair ychydig ar ôl hanner ffordd.

Partneriaeth yn ofer

Cyrhaeddodd Morgannwg 100 yn y bedwaredd belawd ar ddeg, wrth i’r capten Colin Ingram a’i bartner Kiran Carlson, yn ei gêm ugain pelawd gynta’r tymor, geisio sefydlogi’r batiad gan sgorio 32 mewn 3.4 pelawd.

Ond buan y collodd y capten ei wiced wrth geisio torri’r bêl oddi ar fowlio’r troellwr Rashid Khan, a chael ei ddal gan y wicedwr Alex Carey am 19.

Aeth Kiran Carlson yn fuan wedyn, wrth i Reece Topley daro’i goes o flaen y wiced ac erbyn hynny, roedd Morgannwg yn 105 am bump yn y bymthegfed belawd.

Ddwy belawd yn ddiweddarach, cafodd Graham Wagg ei ddal ar ochr y goes wrth dynnu’r bêl at Delroy Rawlins oddi ar fowlio Ollie Robinson, a gipiodd wiced Chris Cooke oddi ar y belen ganlynol, wrth iddo gael ei ddal gan Rashid Khan.

Daeth wythfed wiced i Sussex pan gafodd Andrew Salter ei ddal gan Phil Salt ar y ffin syth ar ochr y goes, a’r sir Gymreig yn llithro i 142 am wyth.

Ar yr un sgôr, cafodd Marchant de Lange ei fowlio gan iorcer gan Reece Topley, a’r sgôr yn 142 am naw, a’r bowliwr cyflym yn cipio’i drydedd wiced am 20.

Bowlio campus y Saeson

Roedd dwy wiced yr un yn y pen draw i Ollie Robinson a Danny Briggs, sy’n dal y record o hyd am y nifer fwyaf o wicedi domestig mewn gemau ugain pelawd.

Bydd Morgannwg yn croesawu Essex i Erddi Sophia yng Nghaerdydd nos Wener, ond mae eu gobeithion o gyrraedd rownd yr wyth olaf eisoes ar ben, i bob pwrpas.