Mae tîm criced Morgannwg yn dal heb fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, wrth iddyn nhw deithio i Hove heno (nos Fawrth, Awst 6) i herio Sussex, sy’n ail yn y tabl.

Ac maen nhw wedi cael hwb gyda’r newyddion bod y bowliwr cyflym Michael Hogan yn dychwelyd ar ôl gwella o anaf i’w goes.

Fe greodd e argraff wrth chwarae i dîm Casnewydd yn erbyn Castell-nedd yn Uwch Gynghrair De Cymru ddydd Sadwrn, wrth gipio tair wiced am 35 mewn deg pelawd.

Ymhlith y batwyr, mae Kiran Carlson yn dychwelyd i’r brif garfan ar ôl sgorio canred i’r ail dîm yn erbyn Hampshire yr wythnos ddiwethaf.

Yr ymwelwyr

Bydd Morgannwg yn herio tîm sydd heb golli’r un gêm yn y gystadleuaeth eleni, wrth iddyn nhw fynd am eu pumed fuddugoliaeth.

Maen nhw’n wynebu Morgannwg ar ôl curo Swydd Gaerloyw ddydd Sul.

Prif sgoriwr Sussex yn y gystadleuaeth eleni yw Phil Salt, sy’n enedigol o Fodelwyddan ac sydd wedi sgorio 176 o rediadau mewn pum batiad.

Danny Briggs, y troellwr, sydd wedi cipio’r nifer fwyaf o wicedi yn hanes gemau ugain pelawd yng Nghymru a Lloegr.

Sussex: P Salt, L Wright (capten), L Evans, A Carey, D Wiese, D Rawlins, R Khan, O Robinson, D Briggs, R Topley, T Mills

Morgannwg: D Lloyd, Fakhar Zaman, C Ingram (capten), K Carlson, C Cooke, J Lawlor, M de Lange, G Wagg, A Salter, L Carey, M Hogan

Sgorfwrdd