Mae Morgannwg yn dal i aros am eu buddugoliaeth gyntaf yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, ar ôl cael crasfa gan Hampshire yn yr Ageas Bowl yn Southampton neithiwr (nos Wener, Awst 2).

Mae Hampshire bellach wedi ennill tair gêm o’r bron, ac yn mynd am le yn rownd yr wyth olaf, ar ôl trechu Morgannwg o 41 o rediadau.

Ar ôl perfformiadau clodwiw yn erbyn Essex nos Iau, cipiodd y troellwyr Mason Crane a Liam Dawson chwech o wicedi Morgannwg rhyngddyn nhw, y naill am 20 rhediad a’r llall am 11.

Cipiodd Chris Morris, bowliwr cyflym De Affrica, ddwy wiced am 21.

Batiad Hampshire

Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, sgoriodd Hampshire 128 yn eu hugain pelawd ar ôl ei chael hi’n anodd cyrraedd y ffin ar lain araf.

Cafodd y Cymro Aneurin Donald gêm siomedig yn erbyn ei hen sir, wrth iddo fe gael ei ddal yn tynnu at y ffin ar ochr y goes gan Jeremy Lawlor am dri, a Lukas Carey yn cipio’r wiced.

Ar ôl taro ergyd gynta’r gêm i’r ffin, cafodd Rilee Rossouw ei fowlio gan Marchant de Lange oddi ar y belen nesaf, wrth i’r bowliwr cyflym gipio’i ganfed wiced mewn gemau ugain pelawd.

Cafodd Sam Northeast ei stympio gan Chris Cooke wedyn oddi ar fowlio’r troellwr llaw chwith achlysurol Fakhar Zaman yn y nawfed pelawd, a’r sgôr erbyn hynny’n 48 am dair.

Ar ôl taro 87 yn erbyn Essex, sgoriodd y capten James Vince ddim ond 25, cyn i Marchant de Lange ei ddal oddi ar ymyl ei fat i roi wiced i Andrew Salter.

Cafodd Chris Morris, James Fuller a Liam Dawson i gyd eu dal ar y ffin, wrth iddyn nhw lithro o 85 am bedair i 102 am saith o fewn tair pelawd.

Sgoriodd Lewis McManus 23 yn niwedd y batiad i roi sgôr parchus i’r Saeson.

Ymateb Morgannwg

Ar ôl sgorio 58 yn erbyn Swydd Gaerloyw, cafodd Fakhar Zaman ei ddal yn y slip gan Liam Dawson oddi ar fowlio drydedd pelen y batiad gan Chris Wood.

Cafodd y capten Colin Ingram ei ddal yn safle’r cyfar byr gan Liam Dawson oddi ar fowlio Kyle Abbott yn niwedd y cyfnod clatsio, a’r sgôr yn 29 am ddwy.

Ond unwaith eto, chwalodd batiad Morgannwg yn y pelawdau canol.

Cafodd Billy Root a Chris Cooke eu bowlio gan Liam Dawson mewn pelawdau olynol, tra bod y troellwr coes Mason Crane wedi cipio dwy wiced y pen arall, wrth i David Lloyd sgubo at Aneurin Donald, cyn i Dan Douthwaite gael ei stympio gan Lewis McManus.

Erbyn hynny, roedd Morgannwg yn 63 am chwech ac mewn dyfroedd dyfnion.

Cafodd Jeremy Lawlor a Marchant de Lange eu dal ar y ffin ar ochr y goes, y naill yn gyrru at James Fuller oddi ar fowlio Chris Morris, a’r llall at Chris Morris oddi ar fowlio Mason Crane.

Erbyn hynny, roedd Morgannwg yn 76 am wyth, cyn i Graham Wagg gael ei dwyllo gan iorcer gan Chris Morris, ac fe gafodd Lukas Carey ei fowlio gan Liam Dawson i ddod â’r gêm i ben, wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 87.

Bydd Morgannwg yn herio Sussex yn Hove nos Fawrth (Awst 6), tra bod Hampshire yn teithio i Swydd Gaint ddydd Sul (Awst 4).