CricedMae Morgannwg yn dal heb fuddugoliaeth yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, ar ôl gorffen yn gyfartal yn erbyn Sir Gaerloyw yng Nghaerdydd neithiwr (nos Iau, Awst 1).

Ar ôl sgorio 172 am bump mewn ugain pelawd, methodd yr ymwelwyr â chyrraedd y nod yn y pen draw, gan orffen ar 172 am saith.

Tarodd Fakhar Zaman, batiwr tramor Morgannwg, 58 a sgoriodd Chris Cooke 42 heb fod allan, a David Lloyd 35.

A chipiodd y troellwr Andrew Salter bedair wiced am 12, wrth i AJ Tye, batiwr yr ymwelwyr, orffen yn ddiguro ar 38 oddi ar 19 o belenni yn niwedd y gêm.

Ond bydd Morgannwg yn difaru peidio â rhoi pedair pelawd i’r troellwr, wrth iddo gipio’i ffigurau gorau erioed mewn tair pelawd – yr ail waith iddo gyflawni’r gamp yr wythnos hon.

Batiad Morgannwg

Ar ôl munud o gymeradwyaeth i gofio’r diweddar Malcolm Nash, dechreuodd Morgannwg yn gadarn ar ôl cael eu gwahodd i fatio.

Tarodd Fakhar Zaman a David Lloyd lu o ergydion i’r ffin yn ystod y cyfnod clatsio i gyrraedd 59 heb golli wiced ar ôl chwe phelawd.

Ond daeth y bartneriaeth i ben pan gam-ergydiodd David Lloyd i’r ochr agored a chael ei ddal gan Michael Klinger oddi ar fowlio Benny Howell am 35, a’r sgôr yn 75 am un ar ôl 8.3 pelawd.

Aeth Fakhar Zaman yn ei flaen i gyrraedd ei hanner canred oddi ar 37, gan daro chwech a phedwar yn olynol yn yr unfed belawd ar ddeg, a’i fatiad erbyn hynny’n cynnwys wyth pedwar ac un chwech.

Ond cafodd Fakhar Zaman ei ddal wrth yrru’n syth at Ian Cockbain oddi ar fowlio Ryan Higgins am 58, a’r sgôr yn 103 am ddwy ar ôl 12.1 pelawd.

Sicrhaodd y maeswr ei ail ddaliad pan yrrodd Colin Ingram y bêl i lawr ei gorn gwddf oddi ar fowlio Tom Smith am 12, a’r sgôr yn 108 am dair ar ôl 13.1 pelawd.

Chris Cooke yn clatsio

Daeth cyfnod o dair pelawd heb ergyd i’r ffin i ben pan darodd Chris Cooke chwech oddi ar fowlio Ryan Higgins yn y bymthegfed belawd, ac fe glatsiodd e chwech a phedwar yn y belawd ganlynol oddi ar fowlio Tom Smith.

Parhaodd e i glatsio yn y ddeunawfed belawd gan Benny Howell, wrth daro chwech enfawr i’r brif eisteddle a chwech arall i’r un cyfeiriad, wrth i’r bowliwr ildio 17 rhediad, a Morgannwg yn 157 am dair gyda dwy belawd yn weddill.

Cafodd Billy Root ei redeg allan gan y bowliwr David Payne oddi ar ail belen y belawd olaf, ac fe gafodd Jeremy Lawlor ei ddal gan Michael Klinger am ddau, wrth i’r batiad ddod i ben ar 172 am bump.

Roedd Chris Cooke heb fod allan ar 42.

Sir Gaerloyw dan bwysau wrth gwrso

Wrth gwrso 173 i ennill, dechreuodd batiad Swydd Gaerloyw’n wael wrth i Miles Hammond gael ei ddal gan Andrew Salter oddi ar ei fowlio’i hun, oddi ar belen gynta’r batiad.

Roedden nhw’n 21 am ddwy ar ôl 2.5 pelawd, wrth i James Bracey dynnu at Jeremy Lawlor ar y ffin oddi ar fowlio Marchant de Lange.

Llwyddon nhw i gyrraedd 46 am ddwy erbyn diwedd y cyfnod clatsio, 13 rhediad y tu ôl i sgôr Morgannwg ar yr un adeg, ond wedi colli dwy wiced yn fwy.

Roedd gwaeth i ddod i’r ymwelwyr, serch hynny, wrth i Michael Klinger gael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Dan Douthwaite am 27 yn niwedd y seithfed belawd, a’r sgôr yn 51 am dair.

Yr ymwelwyr yn taro’n ôl?

Roedden nhw’n 73 am dair erbyn hanner ffordd drwy’r batiad, o’i gymharu â Morgannwg oedd yn 81 am un ar yr un adeg yn eu batiad nhw.

Erbyn hynny, roedd Ian Cockbain a Ryan Higgins wedi hen ymgartrefu wrth y llain ac fe glatsion nhw 14 oddi ar y drydedd belawd ar ddeg gan Graham Wagg, i adael nod o 71 oddi ar saith pelawd.

Ond daeth wiced fawr arall pan gafodd Ian Cockbain ei ddal yn sgubo at Billy Root ar y ffin ar ochr y goes oddi ar fowlio Andrew Salter am 40.

Cipiodd y troellwr ddwy wiced yn ei belawd ganlynol, wrth waredu Ryan Higgins am 37 gyda daliad i Billy Root ar ochr y goes, cyn i Fakhar Zaman ddal Jack Taylor am dri, a’r sgôr yn 118 am chwech yn yr unfed belawd ar bymtheg.

Roedden nhw’n 168 am saith pan gafodd Benny Howell ei ddal ar y ffin gan Billy Root oddi ar fowlio Lukas Carey, ac fe redon nhw ddau oddi ar y belen olaf i osgoi colli.