Fe fydd tîm criced Morgannwg yn mynd am eu buddugoliaeth gyntaf yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast heno (nos Iau, Awst 1), wrth iddyn nhw groesawu Swydd Gaerloyw i Erddi Sophia yng Nghaerdydd.

Maen nhw heb fuddugoliaeth yn eu pedair gêm gyntaf, ar ôl colli tair ac un yn gorffen yn gyfartal ddi-ganlyniad oherwydd y glaw yn Cheltenham yn y gêm gyfatebol rhwng y ddwy sir.

Un newid sydd yng ngharfan Morgannwg, wrth i Callum Taylor o Gasnewydd gael cyfle ar ôl sawl perfformiad clodwiw i’r ail dîm, ac fe allai chwarae yn ei gêm gyntaf i’r sir.

Tarodd e ganred di-guro yn erbyn Caint yn y Bencampwriaeth yr wythnos ddiwethaf, cyn sgorio 41 a chipio tair wiced am 29 mewn gêm ugain pelawd yn erbyn Hampshire.

Ond mae’r bowliwr cyflym Michael Hogan allan am ychydig wythnosau ar ôl anafu ei goes yn y gêm yn erbyn Surrey ar gae’r Oval.

Mae dwy allan o dair gêm Swydd Gaerloyw hyd yn hyn wedi cael eu heffeithio gan y glaw.

Morgannwg: C Ingram (capten), D Lloyd, Fakhar Zaman, J Lawlor, B Root, C Cooke, G Wagg, D Douthwaite, A Salter, M de Lange, L Carey

Swydd Gaerloyw: M Klinger, M Hammond, I Cockbain, J Bracey, R Higgins, J Taylor, B Howell, A Tye, T Smith, G van Buuren, D Payne

Sgorfwrdd