Mae Morgannwg wedi colli gêm ugain pelawd ar gae’r Oval am y tro cyntaf erioed, wrth i Tom Curran gipio hatric i fowlio’r Cymry allan am 44, eu sgôr ugain pelawd isaf erioed, wrth iddyn nhw gwrso 142 i guro Surrey yn y Vitality Blast.

Dechreuodd y Cymry’r gêm yn gryf, wrth fowlio Surrey allan am 141 mewn ugain pelawd, gydag Andrew Salter yn cipio pedair wiced am 23, ei ffigurau gorau erioed, a Marchant de Lange yn cipio pedair wiced am 26.

Ond chwalu unwaith eto wnaeth batwyr Morgannwg, wrth iddyn nhw golli o 97 o rediadau i’w gadael nhw heb fuddugoliaeth yn eu tair gêm gyntaf, cyn wynebu Middlesex yng Nghaerdydd heno (nos Wener, Gorffennaf 26).

Cafodd tair wiced eu cipio mewn pelawd dair gwaith yn ystod y gêm.

Surrey yn brwydro’n ôl ar ôl colli wiced gynnar

Dechreuodd y gêm 40 munud yn hwyr yn dilyn storm yn ne Llundain, ac yna broblem dechnegol wrth i’r disgiau maesu gael eu gosod yn y lle anghywir gan y tirmon.

Er i’r gêm ei chynnal mewn gwres llethol, dechreuodd Morgannwg yn gryf wrth i Dan Douthwaite ddal Mark Stoneman yn safle’r trydydd dyn yn yr ail belawd oddi ar fowlio Marchant de Lange am bump.

Ond fe oroesodd y batwyr am weddill y cyfnod clatsio i gyrraedd 54 am un yn eu chwe phelawd gyntaf.

Ar ôl i Graham Wagg waredu Will Jacks wrth roi daliad i’r wicedwr Chris Cooke am 40, cipiodd y troellwr Andrew Salter wiced gyda’i belen gyntaf wrth i Billy Root gipio chwip o ddaliad yn sgwar ar ochr y goes i waredu Aaron Finch, a’r sgôr yn 75 am dair yn y nawfed pelawd.

Cyfnod allweddol i fowlwyr Morgannwg

Roedden nhw’n 78 am bedair pan gipiodd Andrew Salter ddaliad oddi ar ei fowlio’i hun i waredu Rikki Clarke, ac yn 84 am bump wrth i Tom Curran gael ei ddal yn y cyfar gan David Lloyd oddi ar yr un bowliwr.

Roedden nhw’n 99 am chwech yn y bedwaredd belawd ar ddeg pan gafodd Ollie Pope ei ddal gan Michael Hogan wrth sgubo pelen gan Andrew Salter, wrth iddo gipio pedair wiced am y tro cyntaf erioed mewn gêm ugain pelawd.

Y pen arall i’r llain, gorffennodd Owen Morgan ei bedair wiced ar ôl ildio dim ond 23 rhediad mewn partneriaeth allweddol â’i gyd-droellwr.

Roedd Surrey yn 137 am saith, wrth i Marchant de Lange ddirwyn partneriaeth bwysig rhwng Joe Clark a Liam Plunkett i ben, wrth ddal Liam Plunkett pan yrrodd yn syth i’r ffin ar ochr y goes.

Tair wiced mewn pedair pelen

Ar ôl i Michael Hogan anafu ei goes ar ôl pelen gynta’r belawd olaf, gorffennodd Marchant de Lange y belawd a chipio tair wiced mewn pedair pelen i waredu Jade Dernbach, Gareth Batty ac Imran Tahir.

Cafodd Jade Dernbach a Gareth Batty eu bowlio oddi ar drydedd a phedwaredd pelenni’r belawd, cyn i Imran Tahir gael ei ddal gan Fakhar Zaman oddi ar y belen olaf, wrth i Surrey orffen ar 141 i gyd allan.

Hatric – a Morgannwg yn deilchion

Wrth gwrso nod gymharol isel, dechreuodd batiad Morgannwg yn y modd gwaethaf posib, wrth i Tom Curran gipio hatric yn yr ail belawd.

Cafodd David Lloyd ei fowlio, cyn i Colin Ingram a Billy Root, dau fatiwr llaw chwith, roi daliad yr un i Rikki Clarke yn y slip, a’r dorf yn gorfoleddu wrth i Forgannwg lithro i chwech am dair.

Roedden nhw’n naw am bedair pan gafodd Owen Morgan ei ddal gan y wicedwr Ollie Pope oddi ar fowlio Jade Dernbach yn y drydedd belawd, ac fe orffennon nhw’r cyfnod clatsio ar 26 am bedair wrth i Fakhar Zaman a Chris Cooke ddod ynghyd.

Tair wiced mewn pelawd… eto

Wrth chwilio am rywfaint o sefydlogrwydd, parhau i golli wicedi wnaeth Morgannwg, wrth i Fakhar Zaman gael ei ddal gan Aaron Finch ar y ffin syth ar ochr y goes oddi ar fowlio Gareth Batty.

Roedden nhw’n 38 am bump ar ôl wynebu hanner eu pelawdau.

Cafodd Chris Cooke ei ddal ar y ffin syth ar yr ochr agored gan Liam Plunkett oddi ar fowlio’r troellwr Gareth Batty i’w gadael nhw’n rhacs ar 39 am chwech ar ôl 10.2 pelawd.

Cipiodd Imran Tahir, y troellwr coes o Dde Affrica, dair wiced yn y deuddegfed pelawd, wrth iddo daro coes Graham Wagg o flaen y wiced, rhoi daliad i’r wicedwr i waredu Andrew Salter, a rhoi daliad i Joe Clark i waredu Marchant de Lange.

Erbyn hynny, roedd Morgannwg yn 40 am naw, ac fe lwyddon nhw i atal Imran Tahir rhag cipio ail hatric y gêm.

Daeth yr ornest i ben pan gafodd Michael Hogan ei fowlio gan Gareth Batty ar ôl 12.5 pelawd.