Mae tîm criced Lloegr wedi cael eu bowlio allan am 85 mewn un sesiwn ar fore cyntaf gêm brawf gyntaf Iwerddon ar gae hanesyddol Lord’s yn Llundain.

Ar ôl y gorfoledd o ennill Cwpan y Byd – prif gystadleuaeth 50 pelawd y byd – ddeng niwrnod yn ôl, cafodd y Saeson eu ffrwyno yn fformat hira’r gêm wrth i Tim Murtagh, y bowliwr cyflym 37 oed, gipio pum wiced am 13 ar ôl i Loegr benderfynu batio’n gyntaf.

Mark Adair a Boyd Rankin, cyn-fowliwr cyflym Lloegr, gipiodd y gweddill rhyngddyn nhw, gyda’r naill yn cipio tair a’r llall dwy.

Dim ond tri batiwr sgoriodd fwy na deg, wrth i’r pum chwaraewr oedd yn y tîm gododd dlws Cwpan y Byd yn sgorio cyfanswm o saith rhediad rhyngddyn nhw.

Dyma’r tro cyntaf i’r Gwyddelod herio’r Saeson mewn gêm brawf, a’r gêm brawf pedwar diwrnod gyntaf erioed yn Lloegr.