Mae Morgannwg wedi colli o wyth wiced yn erbyn Gwlad yr Haf yn eu gêm gyntaf yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.

Sgoriodd seren y gêm Tom Banton 64, a Peter Trego 47 i’r ymwelwyr, a gwrsodd 181 yn llwyddiannus mewn 18 pelawd.

Dechreuodd Morgannwg yn gadarn wrth sgorio 180 am bump yn eu hugain pelawd ac oni bai eu bod nhw wedi colli wicedi’n gyson yng nghanol y batiad, fe ddylen nhw fod wedi gallu sgorio dros 200.

Sgoriodd David Lloyd 57 a’r capten Colin Ingram 50, ar ôl i Jeremy Lawlor sgorio 43 ar ddechrau’r batiad, ond fe gollon nhw eu ffordd yn y pen draw.

Cyfnod clatsio Morgannwg

Fe wnaeth David Lloyd a Jeremy Lawlor glatsio yn ystod y chwe phelawd gyntaf, fel eu bod nhw’n cyrraedd 71 heb golli wiced.

Yn ystod y cyfnod clatsio, tarodd y ddau naw pedwar ac un chwech i gyrraedd 71 heb golli wiced.

Wrth iddyn nhw gosbi bowlio llac yr ymwelwyr, gyda’r belawd fwyaf costus yn dod oddi ar fowlio Jamie Overton, a ildiodd 19 o rediadau yn y drydedd belawd.

Bu’n rhaid i Wlad yr Haf aros tan y nawfed pelawd i dorri’r bartneriaeth, pan gafodd Jeremy Lawlor ei ddal gan Max Waller oddi ar fowlio’r troellwr llaw chwith Roelof van der Merwe am 43, a’r sgôr yn 88 am un.

Roedd sgôr o fwy na 200 yn edrych yn bosib erbyn hanner ffordd trwy’r batiad, wrth i Forgannwg lwyddo i gyrraedd 95 am un, gyda’r capten Colin Ingram wrth y llain.

Ar ôl cael ei ollwng gan Jerome Taylor ar 35, cyrhaeddodd David Lloyd ei hanner canred oddi ar 34 o belenni cyn cael ei ddal ar ochr y goes gan Tom Abell oddi ar fowlio Craig Overton am 51, a’r sgôr yn 114 am ddwy.

Colli wicedi

Collodd Morgannwg eu trydedd wiced yn yr unfed belawd ar bymtheg pan darodd Roelof van der Merwe goes Chris Cooke o flaen y wiced am 14, a’r sgôr yn 134 am dair.

Cwympodd y bedwaredd wiced yn y belawd ganlynol pan gafodd Dan Douthwaite ei ddal gan y wicedwr Tom Banton oddi ar fowlio Jerome Taylor am ddau, a’r sgôr yn 137 am bedair.

Roedd Morgannwg wedi colli eu pumed wiced erbyn diwedd y ddeunawfed pelawd, wrth i Billy Root gael ei ddal yn sgwâr ar yr ochr agored gan Peter Trego oddi ar fowlio Craig Overton am ddau, a’r sgôr yn 140 am bump.

Daeth trobwynt yn y batiad pan darodd Colin Ingram 26 oddi ar y belawd olaf, a chyrraedd ei hanner canred oddi ar 28 o belenni, wrth i Forgannwg orffen ar 180 am bump.

Gwlad yr Haf yn cwrso

Wrth gwrso 181 i ennill, dechreuodd yr ymwelwyr yn gryf, wrth i Tom Banton a Babar Azam gyrraedd 75 heb golli wiced erbyn diwedd y cyfnod clatsio.

Daeth y belawd fwyaf gostus gan Marchant de Lange, a ildiodd 22 yn ei belawd gyntaf, ac ail belawd y batiad, wrth i Tom Banton daro dau chwech a dau bedwar.

Daeth 14 oddi ar belawd gyntaf Michael Hogan, a 15 oddi ar belawd gyntaf Owen Morgan, wrth i Tom Banton daro un pedwar a dau chwech oddi ar y ddau rhyngddyn nhw, ac fe gyrhaeddodd ei hanner canred oddi ar 25 o belenni, gan gynnwys tri phedwar a phump chwech.

Wicedi mawr yn ofer

Collodd Gwlad yr Haf eu wiced gyntaf yn y nawfed belawd, wrth i Babar Azam gael ei ddal yn gyrru ar ochr y goes gan Michael Hogan oddi ar fowlio Dan Douthwaite am 35, a’r sgôr yn 98 am un.

Roedden nhw’n 112 am ddwy erbyn hanner ffordd, 17 ar y blaen i Forgannwg, wrth i Tom Banton gael ei ddal gan Billy Root oddi ar fowlio Andrew Salter am 64.

Ond roedd y momentwm gyda’r ymwelwyr, ac fe sicrhaodd Peter Trego a James Hildreth fod eu tîm yn cyrraedd y nod gyda dwy belawd yn weddill.

Mae gan Forgannwg ail gêm mewn dau ddiwrnod, wrth iddyn nhw deithio i Cheltenham yfory (dydd Gwener, Gorffennaf 19) i herio Swydd Gaerloyw.