Mae Colin Ingram, capten tîm criced ugain pelawd Morgannwg, yn dweud ei fod e am “fynd yr holl ffordd” a chyrraedd Diwrnod y Ffeinals eleni.

Mae ymgyrch y sir Gymreig yn y Vitality Blast yn dechrau heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 18), wrth iddyn nhw groesawu Gwlad yr Haf i Erddi Sophia yng Nghaerdydd, ac fe fyddan nhw’n mynd yn syth o’r gêm hon i Cheltenham nos yfory i herio Swydd Gaerloyw.

Ac mae’r capten, sydd â chytundeb gemau undydd yn unig, yn ei ôl yng Nghymru mewn da bryd ar ôl bod yn chwarae yn India, Bangladesh a Phacistan dros y gaeaf.

“Dw i eisiau mynd i Ddiwrnod y Ffeinals,” meddai’r batiwr o Dde Affrica wrth golwg360.

Ar Ddiwrnod y Ffeinals, mae’r pedwar tîm sydd wedi cyrraedd y rownd gyn-derfynol yn chwarae ar yr un cae ar yr un diwrnod, a’r ddau dîm buddugol yn herio’i gilydd yn y rownd derfynol yn y nos.

“Mae hynny’n bwysig i fi oherwydd, mewn cystadleuaeth gyda chynifer o dimau, rhaid i ni anelu i fod yn rhan o Ddiwrnod y Ffeinals a rhoi cyfle i ni’n hunain i fynd am dlws.

“Mae rownd yr wyth olaf yn bwysig, ond rhaid i ni gredu y gallwn ni fynd yr holl ffordd a meddwl am hynny o’r belen gyntaf un. Dyna fy nod i’r criw.”

O’r bêl goch i’r bêl wen

Mae’r gystadleuaeth ugain pelawd yn dechrau ar ôl cyfnod llwyddiannus i Forgannwg yn y Bencampwriaeth, sydd wedi’u gweld nhw’n codi i frig yr ail adran ac yna’n gostwng i’r ail safle, ond yn cadw eu gobeithion o ennill dyrchafiad yn fyw.

Yn ôl Colin Ingram, mae modd manteisio ar y perfformiadau hynny wrth fynd i mewn i gystadleuaeth newydd.

“Mae hyder yn y byd criced yn beth da mewn unrhyw ffurff, yn enwedig os oes gyda chi fatwyr sydd wedi treulio tipyn o amser yn y canol.

“Mae angen i ni fod yn siarp yn feddyliol oherwydd wnaethon ni ddim dechrau’r gystadleuaeth yn dda y llynedd, ond fe chwaraeon ni’n dda tua’r diwedd er nad oedd hynny’n ddigon yn y pen draw.

“Mae wedi bod yn wych gweld y bois yn chwarae’n dda,” meddai.

“Fe fu ambell gêm gyfartal ddewr ac ambell fuddugoliaeth dda iawn, felly dw i’n credu bod tipyn o hyder o fewn y garfan, ac mae hynny’n gymorth ar ddechrau cystadleuaeth newydd.”

Bara menyn Morgannwg

Y gystadleuaeth ugain pelawd fu’r un fwyaf llwyddiannus i Forgannwg dros y tymhorau diwethaf, wrth iddyn nhw gyrraedd Diwrnod y Ffeinals yn 2017.

Ac mae Colin Ingram am atgoffa’r chwaraewyr o’r diwrnod hwnnw i’w sbarduno i ennill gemau y tymor hwn.

“Rhaid i ni gofio’r pethau da wnaethon ni dros y tymhorau diwethaf.

“Oherwydd dw i’n credu ein bod ni wedi adeiladu brand cyffrous o griced T20 ac y gallwn ni guro unrhyw un ar ddiwrnod da, ac mae hynny’n galonogol.

“Mae Grŵp y De yn gryf iawn, ac mae angen i ni adeiladu ar y llwyddiant ac atgoffa’n hunain ein bod ni wedi gwneud yn dda ac y gallwn ni barhau wrth symud yn ein blaenau.”

Newid personel a chystadleuaeth am lefydd

Daw Colin Ingram yn ei ôl i garfan sydd wedi gweld nifer o chwaraewyr newydd yn cyrraedd, ond hefyd tîm hyfforddi newydd gyda Matthew Maynard bellach yn brif hyfforddwr a Mark Wallace yn Gyfarwyddwr Criced.

Mae’r newidiadau’n dod yn sgil diswyddo Robert Croft, a hollti swydd Hugh Morris, y prif weithredwr, yn ddwy.

“Mae Matt a Wally wedi setlo’r ystafell newid, a dim ond pethau da sydd gyda fi i’w dweud am Wally hefyd,” meddai.

“Fe wnes i chwarae gyda fe am sawl blwyddyn a wnes i fwynhau’r cyfnod hwnnw’n fawr iawn.

“Ro’n i’n arfer sefyll yn y slip a rhoi llond clust iddo fe drwy gydol y pedwar diwrnod. Mae wedi bod yn wych cael dod i mewn a’i weld e wedi setlo.

“Mae’r clwb wedi gwneud sawl penderfyniad dewr ac mae pethau i’w gweld wedi symud i’r cyfeiriad cywir.”

Gyda Billy Root a Charlie Hemphrey wedi ymuno â’r sir y tymor hwn, mae yna fwy o gystadleuaeth am lefydd ymhlith y batwyr, sy’n beth da, meddai.

“Ry’n ni wedi gweld y bowlwyr yn cael eu hamnewid dipyn yn y Bencampwriaeth, ac mae hynny’n beth da i’r gêm.

“Fel batiwr, rhaid i chi sicrhau eich bod chi’n sgorio rhediadau ym mhob batiad oherwydd mae rhywun arall yn barod i gymryd eich lle. Mae’n beth iach i’r criw.”

Y garfan

Mae Matthew Maynard wedi enwi carfan o 13 o chwaraewyr i herio Gwlad yr Haf.

Mae’r ddau fatiwr o Gymru, Kiran Carlson a Jeremy Lawlor, a’r chwaraewr amryddawn Owen Morgan wedi’u cynnwys, ynghyd ag Andrew Salter sydd heb chwarae o gwbl mewn gemau undydd y tymor hwn.

Dydy Owen Morgan na Jeremy Lawlor erioed wedi chwarae mewn gêm ugain pelawd i’r sir.

Ond dydy Fakhar Zaman ddim ar gael oherwydd problemau’n sicrhau fisa.

Morgannwg: C Ingram (capten), C Cooke, D Lloyd, J Lawlor, O Morgan, B Root, D Douthwaite, G Wagg, M Hogan, A Salter, M de Lange

Gwlad yr Haf: Babar Azam, T Banton, P Trego, J Hildreth, T Abell, L Gregory (capten), R van der Merwe, C Overton, J Overton, M Waller, J Taylor

Sgorfwrdd