Mae Morgannwg ar fin colli am y tro cyntaf yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Wrth gwrso’r nod sylweddol o 556 i guro Middlesex yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd, fe ddechreuon nhw’r diwrnod olaf ar 171 am chwech yn eu hail fatiad.

Ond mae Charlie Hemphrey, y batiwr cydnabyddedig, yn dal wrth y llain, ar ôl batio’n gadarn am 66 o belawdau ar y trydydd diwrnod.

Manylion

Ar ôl i Middlesex ddechrau’r trydydd diwrnod ar 189 am bump yn eu hail fatiad, collon nhw eu pum wiced olaf yn ystod sesiwn y bore, fel eu bod yn gosod nod o … i Forgannwg ennill y gêm gyda phum sesiwn yn weddill.

Cafodd Robbie White ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Michael Hogan am un oddi ar belen gynta’r bowliwr, a’r sgôr yn 190 am chwech.

Roedden nhw’n 191 am saith yn y belawd ganlynol wrth i Toby Roland-Jones hefyd gael ei ddal gan Chris Cooke, oddi ar fowlio Marchant de Lange am un.

Ond ychwanegodd Tom Helm (38) a Sam Robson 68 am yr wythfed wiced, cyn i Tom Helm gael ei ddal gan Marnus Labuschagne oddi ar ei fowlio’i hun, a’r sgôr erbyn hynny’n 259 am wyth.

Toc ar ôl i Sam Robson gyrraedd ei ganred oddi ar 192 o belenni, cafodd Nathan Sowter ei ddal yn y slip gan David Lloyd oddi ar fowlio Charlie Hemphrey am dri, a’r sgôr yn 266 am naw.

Fe wnaeth Tim Murtagh (33) a Sam Robson (140 heb fod allan) ychwanegu 76 am y wiced olaf, cyn i Tim Murtagh yrru’r bêl at Marchant de Lange ar yr ochr agored oddi ar fowlio Marnus Labuschagne.

Wrth i Middlesex gael eu bowlio allan am 342, roedd gan Forgannwg nod o 556 mewn pum sesiwn erbyn amser cinio.

Morgannwg yn cwrso

Lai nag wyth pelawd i mewn i’w hail fatiad, collodd Morgannwg eu wiced gyntaf pan gafodd Nick Selman ei ddal gan y wicedwr John Simpson oddi ar fowlio Tom Helm am naw.

Mewn partneriaeth sylweddol o … gyda Charlie Hemphrey, sgoriodd Marnus Labuschagne ei seithfed hanner canred mewn wyth batiad.

Ond daeth y bartneriaeth o 97 i ben pan darodd Toby Roland-Jones goes Marnus Labuschagne o flaen y wiced am 51, a’r sgôr yn 106 am ddwy.

Roedden nhw’n 141 am dair pan darodd Nathan Sowter goes David Lloyd o flaen y wiced am 19 ac ar ôl i Billy Root ddod i’r llain, fe gyrhaeddodd Charlie Hemphrey ei hanner canred oddi ar 190 o belenni.

Wiced ar ôl wiced

Ond collodd Morgannwg bedair wiced wedyn am 13 rhediad o fewn wyth pelawd.

Daeth batiad Billy Root i ben am bedwar pan darodd Toby Roland-Jones ei goes o flaen y wiced, a’r sgôr yn 150 am bedair.

Aeth y sefyllfa o ddrwg i waeth pan darodd Tim Murtagh goes Chris Cooke o flaen y wiced am bedwar, a’r sgôr yn 153 am bump, a’r bowliwr yn cipio’i wyth ganfed wiced mewn gemau dosbarth cyntaf.

Roedd Morgannwg yn 163 am chwech pan darodd Nathan Sowter goes Dan Douthwaite o flaen y wiced am naw.