Mae tîm criced Morgannwg yn wynebu’r posibilrwydd o golli gêm Bencampwriaeth am y tro cyntaf y tymor hwn, ar drothwy trydydd diwrnod eu gêm yn erbyn Middlesex yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.

Mae’r Saeson yn 189 am bump yn eu hail fatiad, sy’n golygu eu bod nhw 402 o rediadau ar y blaen i Forgannwg, a’r tebygolrwydd yw y byddan nhw’n batio am sesiwn cyn cau’r batiad gyda diwrnod a hanner yn weddill o’r ornest.

Mae Morgannwg yn ail yn yr ail adran ar hyn o bryd, ac yn mynd am ddyrchafiad wrth i dair sir gael codi i’r adran gyntaf y tymor nesaf.

Diwedd batiad cyntaf Morgannwg

Wrth ymateb i 348 Middlesex yn eu batiad cyntaf, roedd Morgannwg yn 25 am bedair ar ddechrau’r ail ddiwrnod, ac fe gawson nhw eu bowlio allan am 171.

Llwyddodd David Lloyd a Billy Root i’w hachub i ryw raddau gyda phartneriaeth o 59 am y bumed wiced.

Ond wrth golli’r ddau, y naill am 67 a’r llall am 32, collodd Morgannwg eu pum wiced olaf am 28 rhediad.

Cafodd Billy Root ei ddal yn y slip gan Dawid Malan oddi ar fowlio Toby Roland-Jones i adael Morgannwg yn 83 am bump.

Cafodd Chris Cooke ei fowlio gan yr un bowliwr, cyn i George Scott ddal Dan Douthwaite oddi ar fowlio Tim Murtagh, wrth i’r Cymry lithro i 148 am saith.

Cafodd David Lloyd ei ddal gan y wicedwr John Simpson oddi ar fowlio Toby Roland-Jones am 67 belawd yn ddiweddarach, a’r sgôr erbyn hynny’n 148 am wyth.

Cafodd Graham Wagg ei ddal yn y slip gan Dawid Malan oddi ar fowlio Toby Roland-Jones am bedwar, a’r bowliwr yn gorffen gyda phedair wiced am 45.

Daeth y batiad i ben pan gafodd Marchant de Lange ei fowlio gan Tom Helm, wrth iddo orffen gyda phum wiced am 53.

Ail fatiad Middlesex

Roedd gan Middlesex flaenoriaeth o 213 erbyn diwedd y batiad cyntaf, ond fe gawson nhw ddechrau gwael i’r ail fatiad.

Cafodd Stevie Eskinazi ei ddal yn y slip gan Charlie Hemphrey yn y drydedd pelawd, cyn i Nick Gubbins gael ei ddal gan David Lloyd yn y slip oddi ar fowlio Michael Hogan am 13, a’r sgôr yn 33 am ddwy.

Erbyn i Dawid Malan gael ei redeg allan, roedd Middlesex yn 49 am dair, a sgoriodd George Scott 23 cyn cael ei fowlio gan Dan Douthwaite, a’r sgôr yn 82 am bedair yn dilyn partneriaeth ddefnyddiol â Sam Robson, oedd yn 73 heb fod allan ar ddiwedd y dydd.

Yr unig fatiwr arall allan oedd John Simpson, a gafodd ei ddal yn y cyfar ychwanegol gan Billy Root oddi ar fowlio Marchant de Lange ym mhelawd ola’r dydd.

Sgorfwrdd