Mae Morgannwg, sydd ar frig ail adran y Bencampwriaeth, yn mynd am fuddugoliaeth ar ddiwrnod olaf eu gêm yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd.

Ar ôl adeiladu mantais o 79 rhediad yn eu batiad cyntaf ar ôl bowlio’r ymwelwyr allan am 370, mae gan y sir Gymreig flaenoriaeth erbyn hyn o 216 ar drothwy diwrnod cyffrous o griced.

Dyma’r tro cyntaf i Forgannwg adeiladu mantais batiad cyntaf y tymor hwn.

Mae Morgannwg yn 137 am un yn eu hail fatiad, a Marnus Labuschagne heb fod allan ar 90, ar ôl bod y person cyntaf ymhlith yr holl siroedd i gyrraedd y garreg filltir o 1,000 o rediadau yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

Fe gyrhaeddodd e’r garreg filltir honno ar ei ffordd i hanner canred oddi ar 48 o belenni.

Fe ddaeth o fewn trwch blewyn o fod y person cyntaf i gyrraedd 1,000 o rediadau ym mhob cystadleuaeth, ond fe gafodd ei drechu o ddwy funud gan Dominic Sibley o Swydd Warwick.

Cafodd ei ymdrechion eu gwobrwyo amser cinio, pan dderbyniodd ei gap sirol gan Alan Jones, un o fawrion Morgannwg.

Mae ei bartneriaeth sylweddol o 136 gyda Nick Selman yn golygu bod Morgannwg yn nes at y fuddugoliaeth, a Marnus Labuschagne yn nes at bumed canred y tymor hwn.

Canred i Brett D’Oliveira

Ond cafodd Morgannwg y dechrau gwaethaf posib i’r ail fatiad, pan gafodd Owen Morgan ei ddal gan y wicedwr Ben Cox oddi ar fowlio Joe Leach oddi ar chweched pelen y batiad.

Yn gynharach yn y dydd, roedd Swydd Gaerwrangon, ar ôl dechrau ar 191 am bump, yn ceisio ymestyn eu mantais gyda phartneriaeth gadarn rhwng Charlie Morris ac Ed Barnard.

Ond cafodd Charlie Morris ei redeg allan gan Billy Root wrth fynd am rediad annhebygol yn y seithfed pelawd.

Cyrhaeddodd Ed Barnard ei hanner canred oddi ar 93 o belenni, wrth gyrraedd y garreg filltir gyda dwy ergyd am bedwar ar ôl i Lukas Carey gymryd y bêl newydd.

Ond daeth ei fatiad i ben pan gafodd ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Michael Hogan am 56.

Cipiodd yr ymwelwyr ail bwynt batio toc cyn i Ben Cox daro pelen gan Dan Douthwaite i’r wicedwr Tom Cullen, a sicrhaodd ei drydydd daliad yn y batiad.

Sgorfwrdd