Mae Morgannwg wedi cryfhau eu gafael ar yr ornest Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Nghaerdydd, wrth i’r ymwelwyr ddechrau’r trydydd diwrnod ar ei hôl hi o 258 o rediadau.

Maen nhw’n 191 am bump yn eu batiad cyntaf, ar ôl i Forgannwg gipio pwyntiau batio llawn yn eu batiad cyntaf nhw.

Ar ôl i Forgannwg sgorio 449, mae angen i’r ymwelwyr gyrraedd 300 er mwyn osgoi gorfod canlyn ymlaen.

Lwyddodd yr un o fatwyr y Saeson i sgorio hanner canred, wrth iddyn nhw fod o dan bwysau yn wyneb bowlio cryf y Cymry.

Manylion

Ar ôl dechrau’r ail fore ar 354 am chwech, collodd Morgannwg eu seithfed wiced pan gafodd Graham Wagg ei ddal gan Callum Ferguson yn tynnu pelen oddi ar fowlio Harry Finch am bedwar.

Ychwanegodd Lukas Carey a Tom Cullen 39 am yr wythfed wiced cyn i Lukas Carey gael ei fowlio gan y troellwr coes Brett D’Oliveira am 23, a’r sgôr yn 404 am wyth, yn fuan ar ôl i Forgannwg gipio pwyntiau batio llawn.

Roedd Tom Cullen wedi cyrraedd ei hanner canred oddi ar 94 o belenni, ar ôl taro pum pedwar, cyn cael ei fowlio gan Brett D’Oliveira am 51, a’r sgôr yn 413 am naw.

Daeth y batiad i ben pan gafodd Michael Hogan ei ddal gan Callum Ferguson oddi ar fowlio Brett D’Oliveira am 19, a’r bowliwr yn gorffen gyda saith wiced am 92, a Morgannwg i gyd allan am 449.

Batiad cynta’r ymwelwyr

Wrth agor y batio, chwaraeodd Josh Dell a Daryl Mitchell yn amddiffynnol a negyddol wrth gyrraedd partneriaeth agoriadol o 50 mewn 26 pelawd.

Ar ôl cyfnod hesb o 34 pelawd, cipiodd Morgannwg wiced gynta’r ymwelwyr wrth i Josh Dell ddarganfod dwylo diogel y wicedwr Tom Cullen oddi ar fowlio David Lloyd am 36, a’r sgôr yn 83 am un ar drothwy amser te.

Cwympodd yr ail wiced ar 104, wrth i Daryl Mitchell golli ei wiced yn yr un ffordd oddi ar fowlio Michael Hogan am 43.

Wrth i Daryl Mitchell a Callum Ferguson ddechrau edrych yn gadarn, cafodd Daryl Mitchell ei ddal yn gelfydd yn y slip gan Nick Selman oddi ar fowlio Graham Wagg am naw, a’r sgôr yn 127 am dair.

Cafodd Callum Ferguson ei fowlio gan Dan Douthwaite am 29 yn fuan wedyn, a’i dîm erbyn hynny’n 139 am bedair.

Ychwanegodd Ed Barnard a Ross Whiteley 44 am y bumed wiced, cyn i Ross Whiteley gael ei fowlio gan Michael Hogan am 17, a’r sgôr yn 183 ddwy belawd a hanner cyn diwedd y dydd.

Sgorfwrdd