Mae Roman Walker, y bowliwr cyflym o Wrecsam, wedi’i gynnwys yng ngharfan Morgannwg ar gyfer y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerwrangon, sy’n dechrau yng Nghaerdydd heddiw (dydd Sul, Mehefin 30).

Dyma’r tro cyntaf iddo gael ei gynnwys yn y garfan ar gyfer gêm Bencampwriaeth y tymor hwn, ond does dim lle iddo yn y tîm.

Ymddangosodd yn ei gêm gyntaf i’r sir yn erbyn Sussex yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London ar ddechrau’r tymor, wrth iddo daro chwech i ennill y gêm o flaen camerâu Sky Sports.

Hefyd yn y garfan mae Lukas Carey, y bowliwr cyflym o Abertawe, wrth i Marchant de Lange orffwys.

Mae disgwyl i Owen Morgan, un arall o Abertawe, agor y batio yn absenoldeb Charlie Hemphrey, sy’n paratoi ar gyfer genedigaeth ei blentyn yr wythnos hon.

David Lloyd, y capten dros dro o Wrecsam, yw’r pedwerydd Cymro yn y garfan.

Maen nhw ar frig yr ail adran ar hyn o bryd, ac yn gobeithio bod ymhlith y tair sir fydd yn ennill dyrchafiad i adran gynta’r Bencampwriaeth ar gyfer y tymor nesaf.

Morgannwg a Swydd Gaerhirfryn yw’r unig ddwy sir sy’n ddi-guro o hyd.

Gemau’r gorffennol

Pan heriodd Morgannwg a Swydd Gaerwrangon ei gilydd yn 2017, y Saeson oedd yn fuddugol wrth i Tom Kohler-Cadmore daro canred, cyn i Josh Tongue gipio pum wiced am 45 i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn y brifddinas ers 1991.

Yn 2016, tarodd Brett D’Oliveira ganred dwbl cynta’i yrfa i roi pwysau ar Forgannwg, oedd wedi gorffen ar 41 am bedair cyn i’r glaw eu hachub ar ddau ddiwrnod ola’r ornest, a ddaeth i ben yn gyfartal.

Tarodd y capten Daryl Mitchell ganred yn y ddau fatiad yn 2014, wrth i Forgannwg gael nod o 382 oddi ar 102 o belawdau. Ond unwaith eto, daeth y gêm i ben yn gyfartal ar ôl i Will Bragg fatio am chwe awr.

Morgannwg oedd yn fuddugol, o ddeg wiced, yn 2013 wrth i Mike Reed gipio pum wiced am 27 cyn i Jim Allenby daro 78 a chipio pedair wiced am 27.

Morgannwg: D Lloyd (capten), N Selman, O Morgan, M Labuschagne, B Root, D Douthwaite, T Cullen, G Wagg, L Carey, T van der Gugten, M Hogan

Swydd Gaerwrangon: E Barnard, B Cox, J Dell, B D’Oliveira, C Ferguson, A Finch, J Leach (capten), D Mitchell, C Morris, R Wessels, R Whiteley

Sgorfwrdd