Mae tîm criced Morgannwg wedi perfformio’n well na’r disgwyl wrth gyrraedd brig ail adran Pencampwriaeth y Siroedd y tymor hwn, yn ôl Matthew Maynard, y prif hyfforddwr.

Codon nhw i’r brig ar ôl curo Swydd Gaerloyw o bedair wiced ym Mryste ddechrau’r wythnos, ac maen nhw’n anelu i fod ymhlith y tair sir fydd yn ennill dyrchafiad ar ddiwedd yr ymgyrch.

“Fasa neb yn y wlad wedi disgwyl i ni fod lle’r ydan ni, dw i ddim yn meddwl,” meddai Matthew Maynard.

“Ond mae tipyn o ffordd i fynd o hyd, ac mi fydd yn ddiddorol gweld ein hymateb a sut awn ni yn ein blaenau o’r safle rydan ni ynddi rŵan.”

Ar ôl tair buddugoliaeth hyd yn hyn, a thymor di-guro hyd yn hyn yn y Bencampwriaeth, mae Morgannwg eisoes wedi gwneud yn well mewn hanner tymor nag y gwnaethon nhw yn ystod tymor cyfan y llynedd.

 Gwyrdroi gemau

 Er eu bod nhw’n ddi-guro, dim ond mewn un gêm, yn Northampton, maen nhw wedi llwyddo i sicrhau blaenoriaeth ar ddiwedd y batiad cyntaf.

“Mae wedi bod yn dipyn o drawsnewidiad,” meddai Matthew Maynard, sy’n dweud fod ei dîm wedi gorfod brwydro’n galed i ennill gemau.

“Fe fu’n rhaid i’r hogia ddod i’r arfer efo batio a brwydro’n galed mewn gemau, waeth bynnag am y canlyniad, ond mewn ffordd sy’n siwtio ein gêm ni hefyd.

“Mi fedra’i eu gweld nhw’n brwydro yn y ffordd rydan ni’n ymosod ar y gwrthwynebwyr wrth fowlio, ac yn amddiffyn wrth fatio.

“Rydan ni am fod yn ymosodol ac yn bositif, rydan ni am i’r batwyr symud eu traed, ac rydan ni am iddyn nhw gredu ynddyn nhw eu hunain a tharo’r bêl yn eu ffordd eu hunain.

“Mae deall cynlluniau’r gemau’n beth mawr ac yn rhan o’r broses a fydd gobeithio yn eu galluogi nhw i sgorio cynifer o rediadau â phosib.

“Po fwya’ ydach chi’n ennill neu’n cael gemau cyfartal, fwya’ mae’r hyder yn dechrau cyrraedd y chwaraewyr.

“Fel tîm hyfforddi, rydan ni’n ceisio’u helpu a’u cefnogi nhw gymaint â phosib.”

Marnus Labuschagne – chwaraewr y mis?

 Seren Morgannwg hyd yn hyn eleni yw Marnus Labuschagne, y batiwr tramor o Awstralia.

Does neb wedi sgorio mwy o rediadau na fe yn y ddwy adran gyda’i gilydd, ar ôl iddo sgorio 851 o rediadau ym mhob cystadleuaeth gyda’i gilydd.

Ac mae ei berfformiadau wedi arwain at enwebiad ar gyfer chwaraewr y mis, sy’n cael ei ddewis gan Gymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol (PCA).

Yn ôl Matthew Maynard, mae ei berfformiadau’n haeddu cydnabyddiaeth gyda lle yng ngharfan Awstralia ar gyfer Cyfres y Lludw yn ddiweddarach eleni.

“Faswn i’n synnu’n fawr pe na bai’n cael ei alw i garfan y Lludw,” meddai.

“Mae e’n chwaraewr celfydd iawn, ac yn egnïol iawn yn y maes.

“Mae e wedi chwarae yn y tair gêm brawf ddiwethaf i Awstralia ond yn amlwg, efo David Warner a Steve Smith yn dychwelyd, maen nhw’n mynd â dau safle batio gan eu bod nhw’n chwaraewyr arbennig.

“Ond i mi, os ydach chi’n edrych yn fwy hirdymor, mi fyddai o’n ychwanegiad gwych i’r garfan.”

Dwy gêm gartref nesaf

Mae tair buddugoliaeth Morgannwg yn y Bencampwriaeth i gyd wedi dod oddi cartref, ond fe fydd eu dwy gêm nesaf gartref yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd, y naill yn erbyn Swydd Gaerwrangon a’r llall yn erbyn Middlesex.

Dydy hynny, meddai Matthew Maynard, ddim o reidrwydd yn gweithio o’u plaid.

“Rydan ni’n ceisio gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol eleni efo’r llain yng Nghaerdydd.

“Dod i arfer efo hynny sy’n bwysig, ond mae’r timau gorau’n medru addasu i ba bynnag amodau sydd efo nhw.

“Roeddan ni’n araf yn addasu yn y gêm ddiwethaf, ond mi wnaethon ni addasu yn y pen draw wrth i’r bowlwyr ddarganfod eu lein a’u hyd, ac mi gawson nhw eu gwobrwyo.

“Rydan ni’n ceisio cynhyrchu cynifer o leiniau criced â phosib, efo cyflymdra a bowns i’r bowlwyr, ac os ydach chi’n bowlio ar gam, mi gewch chi eich cosbi.

“Rydan ni am gael lleiniau lle mae criced da yn talu ar ei ganfed.”