Tarodd Nick Selman a Marnus Labuschange hanner canred yr un ar ail ddiwrnod y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste, fel bod Morgannwg yn dechrau’r trydydd diwrnod ar 187 am bedair.

Ar ôl diwrnod cyntaf rhwystredig ddydd Sul, llwyddon nhw i fowlio’r Saeson allan am 313 yn eu batiad cyntaf, wrth gipio pum wiced ola’r batiad o fewn pymtheg pelawd.

Mae’n golygu bod y sir Gymreig wedi cwtogi blaenoriaeth eu gwrthwynebwyr i 126 o rediadau, gyda Marnus Labuschagne heb fod allan ar 56.

Y Saeson yn brwydro

Ar fore cymylog, manteisiodd Morgannwg ar yr amodau o’r dechrau’n deg, wrth i Michael Hogan gipio wiced James Bracey am 21, wrth iddo roi daliad i David Lloyd yn y slip, a’r sgôr yn 176 am ddwy.

Ond parhau i bwyso wnaeth y Saeson, wrth i Gareth Roderick ymuno â’r capten Chris Dent, a gyrhaeddodd ei ganred oddi ar 174 o belenni, ar ôl taro pedwaredd ergyd ar ddeg am bedwar i roi pwynt batio i’w dîm.

Dyma’i ail ganred mewn dwy gêm, ar ôl iddo sgorio 176 yn erbyn Swydd Gaerlŷr yr wythnos ddiwethaf.

Ond fe gafodd ei ddal yn fuan wedyn gan y wicedwr Tom Cullen oddi ar fowlio Dan Douthwaite am 105, a’r sgôr erbyn hynny’n 210 am dair o fewn yr awr gyntaf.

Ac roedden nhw’n 215 am bedair o fewn dim o dro, wrth i Benny Howell gyffwrdd â’r bêl yn ddiog a’i gwyro i’r wicedwr oddi ar fowlio Graham Wagg am ddau.

Cwympodd pumed wiced y Saeson pan roddodd Jack Taylor ddaliad syml i Nick Selman yn y slip ar 13, i roi ail wiced i Graham Wagg, a’r sgôr yn 233.

Pum wiced o fewn pymtheg pelawd

Ar ôl cyrraedd 266 am bump erbyn amser cinio, collodd y Saeson bum wiced am 47 rhediad mewn 14.3 pelawd ar ôl yr egwyl.

Cwympodd dwy wiced mewn tair pelen ym mhelawd gynta’r prynhawn wrth i Michael Hogan fowlio Gareth Roderick cyn i Ryan Higgins gael ei ddal gan Tom Cullen, ei drydydd daliad yn y batiad, a’r sgôr erbyn hynny’n 267 am saith.

Cipiodd Marchant de Lange 300fed wiced ei yrfa dosbarth cyntaf pan fowliodd e David Payne am naw, a Swydd Gaerloyw erbyn hynny’n 280 am wyth.

Ychwanegodd Josh Shaw a Graeme van Buuren 42 am y nawfed wiced cyn i Tom Cullen gipio pedwerydd daliad i waredu Graeme van Buuren am 17 oddi ar fowlio Graham Wagg, a’r sgôr yn 312 am naw, a Morgannwg wedi cipio pwyntiau bowlio llawn.

Daeth y batiad i ben pan gafodd Matt Taylor ei ddal gan Tom Cullen oddi ar fowlio Dan Douthwaite am un, a Swydd Gaerloyw i gyd allan am 313 wrth i’r wicedwr hawlio’i bumed daliad.

Morgannwg yn taro’n ôl gyda’r bat

Dechreuodd Morgannwg eu batiad cynta’n bwyllog, ac roedd Nick Selman ar 18 pan gafodd ei ollwng yn y slip gan Miles Hammond oddi ar fowlio David Payne, a’r sgôr yn 28 heb golled. Goroesodd Charlie Hemphrey yr un sefyllfa yn y belawd ganlynol.

Roedd Morgannwg wedi cyrraedd 35 heb golli wiced erbyn amser te, ac fe fyddai Swydd Gaerloyw wedi bod yn siomedig i orffen y sesiwn yn waglaw.

Aeth Charlie Hemphrey a Nick Selman yn eu blaenau i ychwanegu 58 am y wiced gyntaf, cyn i’r wicedwr Gareth Roderick ymestyn ei gorff allan a dal y bêl ag un llaw i waredu Charlie Hemphrey am 28.

Cyrhaeddodd Nick Selman ei hanner canred oddi ar 92 o belenni ar ôl taro wyth pedwar wrth i’r bartneriaeth fynd y tu hwnt i’r hanner cant.

Ond fe ddaeth i ben ar ôl iddyn nhw adeiladu partneriaeth o 95, wrth i Nick Selman gael ei ddal yn gampus ac yn isel yn y slip gan Benny Howell oddi ar fowlio Josh Shaw am 73, a’r sgôr yn 153 am ddwy.

Roedden nhw’n 156 am dair yn y belawd ganlynol pan gafodd y capten David Lloyd ei ddal gan Gareth Roderick oddi ar fowlio Ryan Higgins am un.

Daeth hanner canred Marnus Labuschagne, ei chweched yn y Bencampwriaeth y tymor hwn, oddi ar 75 o belenni, ar ôl iddo daro pum pedwar ac un chwech, ac fe gyrhaeddodd e’r garreg filltir chwe phelawd cyn diwedd y dydd.

Sgorfwrdd