Mae Morgannwg eisoes dan bwysau yn eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste.

Ar ôl colli hanner y diwrnod cyntaf oherwydd y glaw, bydd y tîm cartref yn dechrau’r ail ddiwrnod ar 168 am un, ar ôl i’r capten Chris Dent sgorio 82 heb fod allan i fynd y tu hwnt i gyfanswm o 300 o rediadau yn ei dri batiad diwethaf.

Dim ond 49 o belawdau oedd yn bosib ar y diwrnod cyntaf cyn i’r glaw ddod.

Manylion y diwrnod cyntaf

 Wrth sgorio 61, adeiladodd Miles Hammond bartneriaeth agoriadol o 127 gyda Chris Dent ar ôl i Forgannwg ddewis bowlio’n gyntaf.

Digon gwan oedd bowlio’r sir Gymreig yn y bore, ond fe wellodd ychydig ar ôl cinio, wrth i Miles Hammond gael ei ddal yn safle’r pwynt gan Marnus Labuschagne oddi ar fowlio’r capten David Lloyd.

Roedd wedi cyrraedd ei hanner canred oddi ar 72 o belenni cyn taro ergyd wael wrth golli ei wiced.

Ond roedd Chris Dent a James Bracey eisoes wedi ychwanegu 41 arall at y cyfanswm erbyn i’r glaw ddod ganol y prynhawn.

Cafodd Chris Dent ei ollwng yn y slip ar 58, a chafodd James Bracey ei ollwng yn yr un safle ar 13, gyda’r ddau gyfle’n dod oddi ar fowlio Marchant de Lange.

Roedd Chris Dent wedi cyrraedd ei hanner canred oddi ar 64 o belenni ar ôl taro wyth pedwar.

Aeth y chwaraewyr oddi ar y cae a chael te yn gynnar am 3.10yp, ac fe benderfynodd y dyfarnwyr Rob Bailey ac Ulhas Ghande am 5.35yp na fydden nhw’n gallu dychwelyd.

Bydd Morgannwg yn gobeithio am ail ddiwrnod llai rhwystredig, ar ôl troi at chwe gwahanol fowliwr mewn ymgais i dorri partneriaethau sylweddol.

Sgorfwrdd