Mae Middlesex wedi cynyddu’r pwysau ar Forgannwg yn eu gêm Bencampwriaeth yn Radlett.

Sgoriodd y tîm cartref 410 diolch i ganred yr un gan Paul Stirling (138) a Sam Robson (107).

Dyma sgôr gorau erioed Paul Stirling yn y Bencampwriaeth, a chanred cyntaf Sam Robson y tymor hwn.

Mae’r Saeson eisoes yn gwasgu batwyr Morgannwg, sy’n dechrau’r trydydd diwrnod ar 112 am dair.

Manylion yr ail ddiwrnod

Roedd Middlesex yn 151 am dair ar ddechrau’r ail ddiwrnod ddoe, gyda Sam Robson heb fod allan ar 85 wrth chwarae’n bwyllog tra bod ei bartner yn fwy ymosodol.

Yn fuan ar ôl cyrraedd ei ganred, cafodd ei droelli allan gan y troellwr coes Marnus Labuschagne, wrth i’r wicedwr Tom Cullen sicrhau ei ail ddaliad o’r batiad.

Ychwanegodd Paul Stirling a George Scott 76 am y bumed wiced, wrth iddyn nhw gyrraedd 298 am bump cyn i George Scott gael ei fowlio gan Lukas Carey, wrth i’r bêl wyro’n ôl at y wiced.

Cyrhaedodd Paul Stirling ei ganred gydag ergyd i lawr y cae am bedwar, ei ddeuddegfed ergyd am bedwar yn y batiad.

Wicedi cyson

Ar ôl hynny, dechreuodd Middlesex golli wicedi’n gyson, wrth i John Simpson gynnig daliad syml i Tom Cullen oddi ar fowlio Timm van der Gugten, a’r sgôr yn 333 am chwech.

Tarodd Marnus Labuschagne goes Tom Helm o flaen y wiced am wyth cyn bowlio Paul Stirling am 138, naw rhediad yn brin o’i sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed, a’r sgôr erbyn hynny’n 382 am wyth.

Batiodd Nathan Sowter yn ymosodol gyda thair ergyd am bedwar mewn batiad o 28, ond fe gafodd ei ddal gan Tom Cullen oddi ar fowlio Marchant de Lange, a’r sgôr yn 396 am naw.

Cafodd Tim Murtagh ei fowlio gan Marchant de Lange i ddod â’r batiad i ben, a’r bowliwr yn gorffen gyda thair wiced am 94. Roedd tair wiced hefyd i Marnus Labuschagne am 52.

Ymateb Morgannwg

Roedd gan Forgannwg 35 o belawdau i’w hwynebu, ond fe gawson nhw ddechrau trychinebus, wrth i Charlie Hemphrey redeg ei bartner Nick Selman allan oddi ar ail belen y batiad, wrth i Nick Gubbins daro’r wiced.

Cafodd Marnus Labuschagne ei ddal yn y slip gan Sam Robson ar 32, ond roedd y belen gan Tom Helm yn un anghyfreithlon, ac felly fe oroesodd y batiwr.

Cyrhaeddodd ei hanner canred oddi ar 57 o belenni, gan fynd y tu hwnt i 700 o rediadau dosbarth cyntaf y tymor hwn.

Daeth y bartneriaeth ail wiced o 80 i ben pan darodd Tim Murtagh goes ei bartner Charlie Hemphrey o flaen y wiced am 27.

Cafodd David Lloyd, y capten, ei ollwng gan y capten Stevie Eskinazi oddi ar fowlio Steven Finn ond oddi ar y belen nesaf, cafodd Marnus Labuschagne ei ddal yn safle’r pwynt gan Paul Stirling am 51.

Cafodd Billy Root ei ollwng wedyn gan Sam Robson yn y slip yn ystod pelawd ola’r dydd, ac mae’n ddi-guro ar 16, tra bod David Lloyd heb fod allan ar 12.