Jofra Archer yn canu clodydd llain Caerdydd

Diweddarwyd am  
Jofra Archer yng Nghaerdydd

Jofra Archer yn dathlu cipio wiced yng Nghaerdydd

Llun: David Davies / PA Wire

Mae Jofra Archer yn dweud y byddai’n hapus i fowlio ar lain debyg i honno yng Nghaerdydd am weddill Cwpan y Byd.

Cipiodd bowliwr cyflym Lloegr dair wiced am 29 yn y fuddugoliaeth dros Bangladesh ar ôl cyrraedd cyflymdra o 95 milltir yr awr – un o ddau o fowlwyr Lloegr, ynghyd â Mark Wood, i gyrraedd y cyflymdra hwnnw.

Ar ôl yr ornest, dywedodd Shakib Al Hasan, a darodd ganred i Bangladesh, mai’r ddau yw bowlwyr cyflyma’r gystadleuaeth.

Mae sylwadau Jofra Archer am y llain yn dra gwahanol i’r rheiny gan Chandika Hathurusingha, prif hyfforddwr Sri Lanca, a ddywedodd nad oedd yn “addas ar gyfer gemau rhyngwladol undydd.”

A dydy barn y prif hyfforddwr ddim yn un leiafrifol wrth feirniadu’r llain, gyda nifer fawr o bobol yn ei chollfarnu ar y cyfryngau cymdeithasol ers dechrau’r gystadleuaeth, gyda nifer o dimau’n ei chael yn anodd sgorio rhediadau arni.

Yn wahanol i nifer o’r lleiniau eraill yn y gystadleuaeth, mae’r bêl yn cadw’n isel ac yn ei gwneud hi’n anodd i’r bowlwyr cyflym fod yn ymosodol wrth fowlio at y corff.

“Doedd llawer o’r pelenni oedd yn fyr ddim i fod yn fyr, ond fe wnaethon nhw gario drwodd,” meddai Jofra Archer.

“Pe bawn i’n cael dewis, byddwn i’n dewis [y llain] hon am weddill y gystadleuaeth, pe baen ni’n gallu ei chael hi.”

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Straeon poblogaidd