Fe fydd tîm criced Morgannwg yn ceisio ymestyn eu rhediad di-guro yn y Bencampwriaeth wrth deithio i Swydd Northampton heddiw (dydd Sul, Mehefin 2).

Cawson nhw gêm gyfartal yn erbyn Sussex yn Hove ar ôl i Nick Selman (99) a Marnus Labuschagne (182) adeiladu partneriaeth o 291, yr ail bartneriaeth o fwy na 200 rhwng y ddau y tymor hwn.

Maen nhw’n bumed yn yr ail adran, a’u gwrthwynebwyr yn nawfed.

Gemau’r gorffennol

Collodd Morgannwg o fatiad a 22 rhediad yn eu gêm ddiwethaf yn Northampton yn 2017, ar ôl bod yn 26 am chwech ar un adeg.

Tarodd Rory Kleinveldt hanner canred oddi ar 23 o belenni i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Saeson.

Collodd Morgannwg yn 2016 hefyd, wrth i’r troellwyr Rob Keogh a Graeme White gipio holl wicedi’r Cymry rhyngddyn nhw, wrth i Kiran Carlson, troellwr achlysurol Morgannwg hefyd gipio pum wiced mewn batiad yn ei gêm Bencampwriaeth gyntaf.

Y tywydd oedd yn fuddugol yn 2015, wrth i’r ornest orffen yn gyfartal ar ôl tipyn o law.

Y Saeson oedd yn fuddugol yn 2013 hefyd, a hynny o fatiad.

Enillodd Morgannwg o dair wiced yn 2012 ar ôl batio cadarn Jim Allenby a John Glover i gwrso 351 ar y diwrnod olaf.

Y timau

David Lloyd o Wrecsam sy’n parhau i arwain Morgannwg yn absenoldeb y capten Chris Cooke, sy’n debygol o fod allan am hyd at ddeufis eto, ar ôl anafu cyhyrau yn ei goes.

Mae’r troellwr Kieran Bull wedi anafu ei gefn, ac fe fydd e’n cael asesiad ymhen tair wythnos.

Mae’r chwaraewr amryddawn Ruaidhri Smith wedi anafu cyhyr yn ei goes, ac fe fydd e allan am hyd at ddeufis.

Swydd Northampton: R Vasconcelos, B Curran, A Wakely (capten), T Bavuma, R Keogh, A Rossington, J Cobb, L Procter, L Wood, N Buck, B Sanderson

Morgannwg: N Selman, C Hemphrey, M Labuschagne, D Lloyd (capten), B Root, K Carlson, D Douthwaite, T Cullen, M de Lange, T van der Gugten, M Hogan

Sgorfwrdd