Gêm gyfartal ddi-ganlyniad yn erbyn Sussex yn Hov

 

Mae tîm criced Morgannwg yn parhau’n ddi-guro yn y Bencampwriaeth ar ôl gêm gyfartal ddi-ganlyniad yn erbyn Sussex yn Hove.

Tarodd yr Awstraliad Marnus Labuschagne 192, ei sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed, ei drydydd canred i’r sir Gymreig.

Ac roedd e’n un hanner o bartneriaeth allweddol gyda Nick Selman, wrth i’r ddau ychwanegu 291 am yr ail wiced, sy’n record i’r sir ar gyfer yr ail wiced, wrth guro 252 gan Matthew Maynard a David Hemp yn erbyn Swydd Northampton yng Nghaerdydd yn 2002.

Roedd Nick Selman, sydd hefyd yn hanu o Brisbane, allan am 99.

Batio arwrol

Batiodd Marnus Labuschagne am ychydig yn llai na phump awr cyn cael ei ddal gan y wicedwr Ben Brown oddi ar fowlio Luke Wells. Roedd e wedi taro 31 pedwar oddi ar 244 o belenni.

Roedd Nick Selman wedi aros yn gadarn cyn i David Wiese daro’i goes o flaen y wiced ar 99. Roedd e wedi batio am 343 o funudau, gan wynebu 252 o belenni a tharo deg pedwar.

Collodd Morgannwg wicedi Billy Root a Kiran Carlson cyn cinio, ond parhau i frwydro wnaeth Dan Douthwaite, y batiwr ifanc, wrth daro deg pedwar yn ei 63 oddi ar 55 o belenni.

Daeth ei hanner canred oddi ar 34 o belenni, ac fe orffennodd gyda’i sgôr gorau yn y Bencampwriaeth.

Collodd Morgannwg y capten David Lloyd ond roedd ganddyn nhw fantais o 182 cyn i’r tair partneriaeth olaf ychwanegu 50 rhediad at y sgôr.

Cwympodd y gweddill yn gyson wrth i’r troellwr coes Luke Wells gipio pum wiced am 63, ei ffigurau gorau erioed, wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 466 ar ôl te.

Y Saeson yn cwrso yn ofer

Roedd gan Sussex nod o 233 oddi ar 27 o belawdau, ac fe gollon nhw Phil Salt, sy’n enedigol o Fodelwyddan, wrth iddo gael ei ddal oddi ar fowlio Marchant de Lange.

Roedd y Saeson yn 47 am un pan ddaeth yr ornest i ben yn gyfartal.