Mae dau o gricedwyr tîm India wedi bod yn canmol cae Gerddi Sophia yng Nghaerdydd, wrth siarad â golwg360 ar drothwy Cwpan y Byd.

Sgoriodd KL Rahul 108 wrth i India sgorio 359 am saith yn eu batiad, cyn i’r troellwr Yuzvendra Chahal gipio tair wiced i fowlio Bangladesh allan am 264, ac ennill y gêm o 95 rhediad.

Hon oedd gêm baratoadol olaf India cyn i’r gystadleuaeth ddechrau dydd Iau (Mai 30).

Yn ystod y gystadleuaeth, bydd Gerddi Sophia yn cynnal gemau rhwng Seland Newydd a Sri Lanca (dydd Sadwrn, Mehefin 1), Afghanistan a Sri Lanca (dydd Mawrth, Mehefin 4), Lloegr a Bangladesh (dydd Sadwrn, Mehefin 8), a De Affrica ac Afghanistan (dydd Sadwrn, Mehefin 15).

Trafod y llain

“Fe welson ni yn y bore fod tipyn o fynd ynddi,” meddai KL Rahul, wrth drafod y llain.

“Yn y batiad cyntaf wrth i ni fatio, yn ystod yr 20 neu 30 o belawdau cyntaf, roedd tipyn o fynd yn y llain i’r bowlwyr cyflym.

“Dw i’n credu bod [Gerddi Sophia] yn lleoliad hyfryd, ac roedd y llain yn dda.”

Ac mae’n dweud hefyd y bydd eu paratoadau yng Nghaerdydd yn cynnig y cyfle iddyn nhw gael bwrw iddi ar unwaith ar ddechrau Cwpan y Byd, wrth iddyn nhw herio De Affrica yn Southampton yn eu gêm gyntaf ddydd Mercher nesaf (Mehefin 5).

“Mae’r gêm hon a’r un flaenorol wedi cynnig cyfle da i’r batwyr gael treulio amser yn y canol ac i ddeall yr amodau yma, ac i ddod i arfer â’r fformat 50 pelawd unwaith eto, ar ôl bod yn yr IPL 20 pelawd.

“Roedd yn bwysig iawn, felly, ein bod ni’n cael amser allan ar y cae.”

Roedd Yuzvendra Chahal yntau hefyd yn hapus â chyflwr y llain a’r cae, ac yn darogan gemau cyffrous i’r batwyr a’r bowlwyr. Mae’n gae da,” meddai.

“Mae’r ffiniau ar yr ochr yn fawr, ac mae’r llain yn dibynnu ar amodau cymylog, fel bod y bêl yn gwyro yn y bore.

“Ond ar ôl hynny, mae’n gwella i’r batwyr, a sgorion ni 359, sy’n anodd i’w gwrso ar unrhyw gae.”

‘Arwyddion da’

Mae’n dweud fod y batwyr yn sgorio rhediadau yn arwydd da i’r tîm ar drothwy’r gystadleuaeth, a bod cael MS Dhoni ar ei orau yn hwb iddyn nhw.

Ac mae yntau hefyd yn sicr o gael ei ddewis i fatio’n bedwerydd yn y gêm gyntaf yn dilyn ei ganred, sydd wedi dod ar adeg pan nad oedd yn gwbl sicr o’i le yn y tîm.

“Hon oedd y gêm baratoadol olaf cyn i ni fynd i Gwpan y Byd, felly roedd Mahendra a KL Rahul yn sgorio canred yr un yn arwydd da i ni.

“Mae pob batiwr yn perfformio’n dda.”