Mae tîm criced Morgannwg yn parhau i frwydro’n galed i wyrdroi’r gêm yn erbyn Sussex yn Hove, fel eu bod yn dechrau’r trydydd diwrnod ar ei hôl hi o 97 rhediad yn unig yn eu hail fatiad.

Adeiladodd Nick Selman a Marnus Labuschagne bartneriaeth ddi-guro o 137 ar gyfer yr ail ddiwrnod, wrth i’r sir Gymreig orffen yr ail ddiwrnod ar 137 am un.

Maen nhw wedi llwyddo i dorri tolc sylweddol allan o flaenoriaeth y Saeson, oedd â mantais batiad cyntaf o 234, wrth iddyn nhw sgorio 420 cyn bowlio Morgannwg allan am 186.

Dechrau gwael i’r ail fatiad

Dechreuodd ail fatiad Morgannwg yn wael ar yr ail ddiwrnod, pan gafodd Charlie Hemphrey ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Mir Hamza yn y belawd gyntaf.

Ond llwyddodd Marnus Labuschagne i gyrraedd 77 erbyn diwedd y dydd, gyda Nick Selman
heb fod allan ar 45.

Ar ôl i 15 wiced gwympo ar y diwrnod cyntaf, roedd arwyddion fod y llain yn dechrau gwella i’r batwyr erbyn yr ail ddiwrnod, ac fe gafodd ei brofi gan fatio amyneddgar Morgannwg.

Yn gynharach yn y gêm, roedd Ben Brown, capten Sussex, wedi sgorio 131, canred rhif 17 ei yrfa dosbarth cyntaf, yn dilyn canred yn erbyn Swydd Northampton yr wythnos ddiwethaf.

Roedd Morgannwg wedi bod dan bwysau pan ychwanegodd e a David Wiese 107 at y sgôr mewn 25 pelawd.

Un wiced yn unig gipiodd Morgannwg yn ystod sesiwn y bore, wrth i David Wiese gael ei fowlio gan Timm van der Gugten. Roedd Ben Brown a Chris Jordan wedi ychwanegu 55 am y seithfed wiced, ac fe gyrhaeddodd y capten ei ganred oddi ar 146 o belenni, gan daro 13 pedwar.

Fe gafodd Ben Brown ei ollwng ar y ffin gan Billy Root, cyn iddo achub ar ei ail gyfle i’w waredu yn fuan wedyn.

Sgorfwrdd