Fe fydd tîm criced Morgannwg yn gobeithio anghofio am yr hunllef gawson nhw yn y Bencampwriaeth yn Hove y tymor diwethaf, wrth iddyn nhw deithio yno eto yn chwilio am ail fuddugoliaeth o’r bron.

Curon nhw Swydd Derby o ddwy wiced yn Derby yr wythnos ddiwethaf, sy’n golygu eu bod nhw’n bedwerydd yn y tabl, tra bod eu gwrthwynebwyr yn chweched.

Y tymor diwethaf, cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 85 ac 88, wrth i Jofra Archer gipio wyth wiced yn yr ornest a ddaeth i ben mewn llai na deuddydd gyda buddugoliaeth o fatiad a mwy i’r Saeson.

Gêm gyfartal gawson nhw yn 2016, ar ôl i David Lloyd sgorio canred wrth ymateb i ganred gan Ed Joyce, Luke Wells a Ben Brown i’r Saeson.

Dydy Morgannwg ddim wedi curo Sussex yn y Bencampwriaeth ers eu gornest yn Llandrillo-yn-Rhos yn 2000, ond dydyn nhw ddim wedi eu curo yn Hove ers 1975, pan darodd Roger Davis ganred cyn i John Solanky a Tony Cordle gipio saith wiced rhyngddyn nhw wrth i Forgannwg ennill o 96 o rediadau.

Y timau

David Lloyd sy’n arwain Morgannwg unwaith eto yn absenoldeb Chris Cooke.

Mae pedwar newid i gyd yn y garfan, wrth i’r troellwr Andrew Salter, y batiwr ifanc Kiran Carlson a’r bowlwyr cyflym Timm van der Gugten a Marchant de Lange ddychwelyd.

Mae’n golygu nad yw Lukas Carey na Michael Hogan wedi’u cynnwys, wrth iddyn nhw orffwys ar drothwy cyfnod pan fydd Morgannwg yn chwarae wyth gêm mewn wyth wythnos.

Does dim lle ychwaith i’r troellwr Kieran Bull, sydd wedi anafu ei gefn.

O safbwynt y Saeson, bydd Jared Warner yn chwarae ei gêm gyntaf i’r sir, sydd hefyd wedi dewis Phil Salt, y chwaraewr amryddawn sy’n enedigol o Fodelwyddan.

Sussex: L Wells, P Salt, H Finch, S van Zyl, L Evans, B Brown (capten), D Wiese, C Jordan, D Briggs, J Warner, Mir Hamza

Morgannwg: N Selman, C Hemphrey, M Labuschagne, D Lloyd (capten), B Root, K Carlson, D Douthwaite, G Wagg, T Cullen, M de Lange, T van der Gugten

Sgorfwrdd