Mae Morgannwg wedi ennill eu gêm Bencampwriaeth o ddwy wiced ar y diwrnod olaf yn erbyn Swydd Derby yn Derby, wrth i Tom Cullen, y wicedwr dros dro, daro hanner canred.

Tarodd e 51 oddi ar 88 o belenni wrth i Forgannwg gwrso’r nod o 246 yn llwyddiannus.

Brwydrodd Morgannwg yn galed ar ôl bod yn 162 am saith ar un adeg, wrth i Ravi Rampaul gipio tair wiced i’r tîm cartref.

Cau pen y mwdwl

Roedd gan Swydd Derby flaenoriaeth o 203 ar ddechrau’r diwrnod olaf, ond ychwanegodd Ravi Rampaul ac Anuj Dal 51 am y wiced olaf, fel bod eu mantais wedi cael ei hymestyn i 245.

Daeth y batiad i ben pan gafodd Ravi Rampaul ei fowlio gan y troellwr coes Marnus Labuschagne, a Swydd Derby i gyd allan am 213.

Roedd yn golygu bod angen i Forgannwg drechu eu sgôr gorau erioed wrth gwrso yn erbyn Swydd Derby er mwyn ennill yr ornest.

Dechrau gwael i’r batiad

Dechreuodd ail fatiad Morgannwg yn y modd gwaethaf wrth i Nick Selman gael ei ddal gan y wicedwr Harvey Hosein oddi ar belen lac gan Tony Palladino, a Morgannwg yn ddau am un ar ôl tair pelen.

Collodd Morgannwg eu hail wiced yn y chweched pelawd pan darodd Ravi Rampaul goes Charlie Hemphrey o flaen y wiced am bedwar, a’r sgôr yn 14 am ddwy.

Sgoriodd Marnus Labuschagne 32 cyn cael ei ddal gan Logan van Beek ar ochr y goes oddi ar fowlio Ravi Rampaul. Erbyn hynny, roedd Morgannwg yn 47 am dair.

Roedd angen 170 yn rhagor ar Forgannwg erbyn amser cinio, ond collon nhw Billy Root wrth i Ravi Rampaul daro’i goes o flaen y wiced am 26, a’r sgôr yn 89 am bedair a’r fuddugoliaeth yn dechrau edrych yn annhebygol.

Roedd Morgannwg yn 114 am bump pan darodd Tony Palladino goes y capten David Lloyd o flaen y wiced, wrth i’r Saeson fynd gam yn nes at y fuddugoliaeth.

Cafodd Jeremy Lawlor ei ddal ar ochr y goes gan Luis Reece oddi ar fowlio’r troellwr coes Matt Critchley am 25, a Morgannwg mewn dyfroedd dyfnion yn 163 am saith erbyn amser te.

Tro ar fyd

Ond ychwanegodd Tom Cullen ac Andrew Salter 55 at y cyfanswm mewn 25 o belawdau wrth ddangos cryn amynedd.

Roedd angen 30 ar Forgannwg yn ystod yr awr olaf, ond cafodd Andrew Salter ei ddal yn y slip gan Wayne Madsen oddi ar fowlio Luis Reece am 26, a’r sgôr yn 217 am wyth.

Cyrhaeddodd Tom Cullen ei hanner canred, gan daro 10 rhediad oddi ar un belawd, toc cyn i Lukas Carey gymryd y flaenoriaeth a tharo pedwar i ennill yr ornest.