Mae tîm criced Morgannwg yn parhau i frwydro yn y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Derby yn Derby, ac maen nhw’n dechrau’r trydydd diwrnod heddiw 164 o rediadau y tu ôl i gyfanswm batiad cynta’r Saeson, gyda chwe wiced wrth gefn.

Roedden nhw’n 214 am bedair ar ddiwedd yr ail ddiwrnod, ar ôl i Billy Root daro canred ar y diwrnod y daeth y cyhoeddiad ei fod e wedi cael ei wahardd rhag bowlio am y tro oherwydd ei ddull amheus.

Mae Morgannwg yn ymateb i’r 378 sgoriodd Swydd Derby yn eu batiad cyntaf, ac fe osododd Charlie Hemphrey y seiliau gyda 75, ei sgôr gorau i Forgannwg.

Bowlio Swydd Derby allan

Roedd Swydd Derby yn 253 am bump ar ddechrau’r ail ddiwrnod ddoe, ac fe gipiodd Lukas Carey dair wiced ar ddechrau’r trydydd bore i orffen gyda phedair am 61, ei ffigurau gorau erioed mewn gêm dosbarth cyntaf.

Roedd y sir Gymreig wedi bod dan bwysau ar ôl i Anuj Dal daro’i hanner canred cyntaf i’r Saeson mewn partneriaeth o 50 gyda Ravi Rampaul am y wiced olaf, wrth iddyn nhw gipio pedwerydd pwynt batio.

Cipiodd Dan Douthwaite ei ail wiced yn y Bencampwriaeth pan ergydiodd Matt Critchley i Nick Selman yn y slip ar 15, cyn i Lukas Carey fowlio Alex Hughes oddi ar ei law am 82.

Cafodd Logan van Beek ei fowlio gan Lukas Carey oddi ar belen lawn, a chafodd Tony Palladino ei ddal yn sgwâr ar ochr y goes wrth dynnu at Jeremy Lawlor ar 10.

Roedd Swydd Derby wedi cyrraedd 378 cyn i Anuj Dal gael ei fowlio gan Michael Hogan i ddod â’r batiad i ben.

Morgannwg yn colli wicedi cynnar

Roedd angen i Forgannwg sgorio 229 er mwyn osgoi gorfod canlyn ymlaen, ac fe fu’n rhaid i’r agorwyr Nick Selman a Charlie Hemphrey weithio’n galed o’r dechrau’n deg.

Ond buan y collodd y Cymry eu wiced gyntaf, wrth i Tony Palladino gipio wiced rhif 350 ei yrfa dosbarth cyntaf pan gafodd ei ddal gan Matt Critchley ar 21, a’r sgôr yn 44 am un.

Tarodd Ravi Rampaul goes Marnus Labuschagne o flaen y wiced ar 14 toc ar ôl te, ac roedd Morgannwg yn 70 am ddwy.

Fe wnaeth Luis Reece ddarganfod ymyl bat y capten David Lloyd i roi daliad syml i Anuj Dal yn sgwâr ar yr ochr agored.

Y batwyr yn taro’n ôl

Brwydrodd Charlie Hemphrey yn galed i gyrraedd ei trydydd hanner canred o’r bron yn y Bencampwriaeth, ac fe gafodd ei gefnogi gan Billy Root y pen arall i’r llain.

Ond gallai Billy Root fod wedi cael ei ddal yn y slip ar 16, ond fe gafodd ei ollwng cyn taro tri phedwar mewn pelawd ar ei ffordd i hanner canred oddi ar 61 o belenni.

Daeth batiad Charlie Hemphrey i ben ar ôl pedair awr 19 munud, pan darodd Logan van Beek ei goes o flaen y wiced ar 75.

Bydd Billy Root yn dechrau’r diwrnod ar 53 heb fod allan, gyda Jeremy Lawlor y pen arall i’r llain.

Sgorfwrdd