Mae Clwb Criced Casnewydd yn dweud eu bod yn edrych ymlaen at gynnal gêm griced dosbarth cyntaf am y tro cyntaf ers 1965, wrth i Forgannwg herio Swydd Gaerloyw yn y Bencampwriaeth yr wythnos hon.

Y gêm hon yw penllanw taith sy’n dyst i gymeriad y clwb ac ewyllys cefnogwyr criced yr ardal.

Mae Parc Spytty wedi’i droi’n Bentref Chwaraeon Rhyngwladol o’r radd flaenaf, sy’n cynnwys rhwydi gwerth £70,000 yn ogystal â chanolfan griced dan do, trac seiclo a llawer mwy.

Mae’r cyfleusterau’n dra gwahanol i’r rheiny oedd gan y clwb yn 1990, pan fu’n rhaid iddyn nhw symud o Rodney Parade, eu cartref ers 97 o flynyddoedd.

“Roedd pawb wedi cael siom aruthrol pan gawson ni glywed gan Newport Athletic, oedd yn gyfrifol am y cae, fod rhaid i ni symud,” meddai Mike Knight, cadeirydd Clwb Criced Casnewydd sydd wedi bod yn aelod o’r clwb er pan oedd e’n naw oed.

“Chwaraeon ni ein gêm gartref olaf yn 1990, a bu’n rhaid i ni chwarae ein holl gemau oddi cartref am y ddwy flynedd ganlynol.”

Pennod newydd

 Ond fe ddaeth y clwb o hyd i dir ar gyrion dinas Casnewydd yn y pen draw, ac yno y daeth y “freuddwyd amhosib” yn wir, meddai Mike Knight.

Gadawodd y clwb Rodney Parade heb iawndal ac fe fu’n rhaid iddyn nhw sefydlu ymgyrch i godi hyd at £30,000 gyda chefnogaeth Cyngor Chwaraeon Cymru, Cyngor Bwrdeistref Casnewydd ac unigolion eraill.

Mae’r freuddwyd gynnar honno wedi troi’n gyfleuster sydd bellach yn gartref cysurus i’r clwb, a byddan nhw’n datblygu ar y freuddwyd wrth groesawu Morgannwg am y tro cyntaf ers i’r sir gael gêm gyfartal gyda Swydd Warwick yn 1965, gêm a gafodd ei heffeithio gan y glaw.

Ers cytuno i gynnal y gêm dros y gaeaf, mae gwirfoddolwyr y clwb wedi bod yn gweithio’n galed i baratoi’r cae ar gyfer y gêm hanesyddol.

“Ry’n ni wedi gwerthu’r holl letygarwch ar gyfer y deuddydd cyntaf,” meddai Mike Knight.

“A bydd y cae yn edrych yn wych pan fydd popeth yn ei le. Y cyfan sydd ei angen arnon ni nawr yw tywydd braf.

“Os bydd popeth yn mynd yn dda, rydym yn hyderus y gallwn ni gynnal rhagor o gemau yn y dyfodol – naill ai gemau pedwar diwrnod yn y Bencampwriaeth neu gemau undydd.”

Yn ystod yr wythnos, fe fydd Jack Russell, cyn-gricedwr Swydd Gaerloyw a Lloegr ac arlunydd, yn arddangos ei waith, ac yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda Matthew Maynard, prif hyfforddwr Morgannwg, a Devon Malcolm, cyn-fowliwr cyflym Lloegr.