Mae Clwb Criced Morgannwg wedi rhyddhau nifer o’u chwaraewyr i glybiau yn Uwch Gynghrair De Cymru dros y penwythnos.

Does gan Forgannwg ddim gêm tan yr wythnos nesaf, pan fydd criced sirol yn dychwelyd i Gasnewydd am y tro cyntaf ers 54 o flynyddoedd, wrth i’r Cymry herio Swydd Gaerloyw yn y Bencampwriaeth.

“Mae’r Uwch Gynghrair yn rhan allweddol o’n llwybrau datblygu a gyda bwlch bach yn ein rhestr gemau, rydym yn gweld cyfle delfrydol i’n chwaraewyr ddychwelyd a chyfrannu at griced ar lefel y clybiau,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

Y chwaraewyr sydd wedi’u rhyddhau yw:

Kiran Carlson, Prem Sisodiya (Caerdydd), Timm van der Gugten (Y Mwmbwls), Owen Morgan a Lukas Carey (Pontarddulais), Kazi Szymanski a David Lloyd (Clydach), Andrew Salter a Marchant de Lange (Rhydaman), Callum Taylor (Casnewydd), Jeremy Lawlor a Ruaidhri Smith (Sain Ffagan), Kieran Bull a Billy Root (Castell-nedd), Nick Selman a Craig Meschede (Pen-y-bont ar Ogwr), Connor Brown a Graham Wagg (Port Talbot).