Daw ymgyrch Morgannwg yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London i ben heddiw (dydd Mawrth, Mai 7), wrth iddyn nhw deithio i Hove i herio Sussex (1 o’r gloch).

Maen nhw’n chweched yn y tabl ar ôl ennill dwy gêm yn unig, a cholli pedair gyda’r llall wedi dod i ben oherwydd y tywydd.

Daeth eu gobeithion o gyrraedd y rownd nesaf i ben wrth iddyn nhw golli yn erbyn Middlesex yn Lord’s ddydd Sul, ond mae gan Sussex obaith o fynd drwodd o hyd.

Er mwyn i Sussex gyrraedd y rownd nesaf, byddai angen iddyn nhw ennill a dibynnu ar ddwy sir o blith Swydd Gaerloyw, Gwlad yr Haf a Middlesex i golli.

Fel arall, byddai angen iddyn nhw guro Morgannwg o gyfanswm sylweddol, a gobeithio am y gorau o ran y gyfradd rediadau.

Gemau’r gorffennol

Morgannwg oedd yn fuddugol pan herion nhw ei gilydd yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd y tymor diwethaf, a hynny o chwe wiced yn dilyn partneriaeth gadarn o 98 rhwng Colin Ingram (95 heb fod allan) a Kiran Carlson (59).

Y Saeson oedd yn fuddugol yn 2017, wrth i Stiaan van Zyl sgorio 96, er i Jacques Rudolph a Chris Cooke sgorio hanner canred yr un i Forgannwg.

Morgannwg oedd yn fuddugol yn 2014, pan darodd Jacques Rudolph 169.

Y timau

Does dim newid yn ngharfan Morgannwg.

Ond does dim lle yng ngharfan Sussex i Chris Jordan na Jofra Archer, fu’n chwarae mewn gêm ugain pelawd i Loegr yn erbyn Pacistan yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Ond daw Phil Salt, sy’n enedigol o Fodelwyddan, yn ei ôl i’r garfan ar ôl cael ei alw’n eilydd i garfan Lloegr.

Sussex: B Brown (capten), W Beer, D Briggs, L Evans, G Garton, M Hamza, A Sakande, P Salt, S van Zyl, D Wiese, L Wright

Morgannwg: C Cooke (capten), L Carey, D Lloyd, B Root, D Douthwaite, M de Lange, T van der Gugten, J Lawlor, M Labuschagne, C Hemphrey, G Wagg

Sgorfwrdd