Mae Dan Douthwaite, cricedwr ifanc Morgannwg, wedi bod yn trafod digwyddiad annisgwyl yn ei gêm gyntaf i’r sir yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste ddydd Mawrth.

Mae’r myfyriwr 22 oed, sydd newydd ymuno o Brifysgolion Caerdydd yr MCC, yn dweud mai fe yw’r person cyntaf i “golli ei wiced” dair gwaith oddi ar yr un belen yn ei gêm gyntaf.

Daeth y gyfres o ddigwyddidau rhyfedd yn ystod buddugoliaeth Morgannwg dros Swydd Gaerloyw yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London yn Mryste ddydd Mawrth (Ebrill 30).

Cafodd ei stympio oddi ar belen lydan ac fe fyddai wedi gorfod dychwelyd i’r pafiliwn oni bai bod y belen yn un anghyfreithlon am fod gormod o faeswyr o fewn y cylch.

Ar ôl goroesi ddywaith, fe gafodd ei ddal oddi ar ergyd rydd – pelen ychwanegol nad oes modd i fatiwr golli ei wiced oddi arni.

Sgoriodd e naw yn y pen draw, cyn cael ei ddal yn gyfreithlon.

“Ces i wybod mai fi yw’r person cyntaf i golli wiced dair gwaith yn fy ngêm gyntaf,” meddai â’i dafod yn ei foch wedi’r gêm.

“Roedd yn dda cael bod allan yno o flaen torf.

“Wnes i lwyddo i daro ergyd i’r ffin ac ro’n i allan go iawn yn y pen draw, felly dyna fi ar fy ffordd yn ôl wedyn!”

“Anghredadwy”

Yn bwysicach na’i berfformiad ei hun, meddai, fe fydd yn cofio’r ornest am y bartneriaeth o 234 rhwng y capten Chris Cooke (161) a Billy Root (98), oedd wedi gosod y seiliau ar gyfer y fuddugoliaeth.

“Wnes i ddim llwyddo i gyfrannu ryw lawer fy hun, ond roedd hi’n braf cael gwylio Cookey a Rooty yn mynd o’i chwmpas hi fel y gwnaethon nhw.

“Mae partneriaeth o 200 mewn unrhyw fformat yn syfrdanol, felly roedd hi’n bleser cael gwylio.”

Braf cael bod yng Nghymru

Yn enedigol o Surrey, chwaraeodd y chwaraewr amryddawn mewn un gêm Restr A i Swydd Warwick y tymor diwethaf.

Ond mae’n dweud ei fod e’n teimlo’n gartrefol yng Nghaerdydd ac yng Nghymru erbyn hyn.

“Mae’r ystafell newid yn lle gwych i fod yn wyneb ffres. Mae pawb mor groesawgar ac mae’n gymorth ein bod ni’n ennill.

“Mae gyda ni siawns o fynd drwodd o hyd ac mae tipyn o hyder gyda ni.”

Ei daith i Erddi Sophia

Ar ddechrau’r tymor hwn, roedd Dan Douthwaite yn paratoi ar gyfer tymor arall gyda Phrifysgolion Caerdydd yr MCC.

Ond ar ôl taro canred yn erbyn Sussex a 95 mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Morgannwg ar drothwy’r tymor newydd, fe ddaeth galwad ffôn gan y sir Gymreig yn cynnig cytundeb iddo fe.

“Fe ddigwyddodd y cyfan yn gyflym iawn,” meddai.

“Ces i sioc o gael cynnig cytundeb, ond fe ddaeth ar ôl sawl perfformiad da yn y brifysgol mewn gemau dosbarth cyntaf.

“Roedd yna sgyrsiau’n digwydd [gyda siroedd eraill] cyn y gêm yn erbyn Morgannwg, ac ro’n i’n ffodus o daro 95 yn eu herbyn nhw, a dyna pryd wnaethon nhw gynnig cytundeb i fi.

“Roedd yn benderfyniad hawdd i’w dderbyn e, dw i wrth fy modd yng Nghaerdydd ac yn hapus i ymroi i fyw yng Nghaerdydd am ddwy neu dair blynedd eto.

“Mae yna nifer o chwaraewyr yn cnocio ar y drws i gael chwarae, felly cawn weld beth fydd yn digwydd y tro nesaf.”