Mae Morgannwg wedi ennill eu hail gêm 50 pelawd o’r bron, wrth drechu Swydd Gaerloyw o 74 o rediadau ym Mryste.

Gosododd y capten Chris Cooke y seiliau yn y gynnar yn y gêm, wrth daro 161, a chael ei gefnogi gan Billy Root (98), wrth i Forgannwg gyrraedd 331 am saith.

Ond roedd y tîm cartref yn brin o’r nod, gan orffen ar 257, er bod Jack Taylor wedi taro 75, wrth i Graham Wagg a Marchant de Lange gipio tair wiced yr un.

Dechrau araf

Ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio, collodd Morgannwg eu wiced gyntaf yn y seithfed pelawd, wrth i David Lloyd gael ei redeg allan pan wyrodd y bêl oddi ar law’r bowliwr tuag at y wiced, a Morgannwg yn 26 am un.

Roedden nhw’n 48 am ddwy cyn diwedd y ddeuddegfed pelawd, wrth i Jeremy Lawlor ergydio’n wyllt a chael ei ddal gan David Payne oddi ar fowlio’r troellwr llaw chwith Graeme van Buuren am 24.

Wnaeth yr Awstraliad Marnus Labuschagne ddim para’n hir, wrth iddo ergydio i’r wicedwr Gareth Roderick i lawr ochr y goes oddi ar fowlio Chris Liddle am ddau, a’r sgôr yn 53 am dair ar ôl 13 pelawd – union gyfanswm rhediadau’r batiwr tramor mewn chwe batiad.

Partneriaeth fawr

Daeth sefydlogrwydd i’r batiad wrth i’r capten Chris Cooke a Billy Root ddod ynghyd, a’r capten yn cyrraedd ei hanner canred oddi ar 66 pelen, gan daro tri phedwar a dau chwech a’r sgôr yn 137 am dair ar ôl 30 pelawd.

Daeth hanner canred Billy Root, ei drydydd i’r sir, oddi ar 65 o belenni, a chyrhaeddodd Chris Cooke ei ganred oddi ar 99 o belenni, gan gynnwys naw pedwar a thri chwech i helpu Morgannwg i sgorio 101 rhwng pelawdau 31 a 40.

Erbyn i Chris Cooke a Billy Root adeiladu partneriaeth o 200, roedd y capten newydd gyrraedd 150, ei sgôr gorau erioed mewn gêm Restr A, gan faeddu’r 137 gafodd e yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton yn 2012.

Ond cafodd ei fowlio gan Benny Howell am 161 – oddi ar 127 o belenni – gan ddod â thrydedd bartneriaeth orau Morgannwg erioed mewn gemau Rhestr A o 234 gyda Billy Root i ben, a’r sgôr yn 287 am bedair. Tarodd e 12 pedwar ac wyth chwech.

Colli momentwm gyda’r bat

Goroesodd Dan Douthwaite yn gynnar yn ei fatiad cyntaf i’r sir, ar ôl cael ei stympio oddi ar belen anghyfreithlon, ond cafodd ei ddal wedyn gan Jack Taylor wrth fynd am ergyd fawr oddi ar fowlio Benny Howell am naw, a Morgannwg yn 311 am bump.

Collodd Morgannwg ddwy wiced yn y belawd olaf, wrth i Graham Wagg gael ei ddal gan Chris Dent oddi ar fowlio Benny Howell am 16, cyn i Billy Root gael ei redeg allan am 98 wrth i Forgannwg orffen ar 331 am saith.

Wiced ar ôl wiced

Cipiodd Morgannwg wiced yn y belawd gyntaf wrth i Marnus Labuschagne ddal Gareth Roderick yn sgwâr ar yr ochr agored oddi ar fowlio Lukas Carey, a’r sgôr yn un am un.

Daeth rhagor o lwyddiant i Forgannwg pan gollodd Swydd Gaerloyw ddwy wiced mewn tair pelen – Miles Hammond wedi’i ddal yn y cyfar gan Billy Root oddi ar fowlio Marchant de Lange, cyn i chwip o belen gynnig daliad i Charlie Hemphrey yn y slip.

Aeth y sefyllfa o ddrwg i waeth i’r Saeson pan gyfunodd yr un maeswr a bowliwr i waredu James Bracey, a’r tîm cartref yn llithro i 26 am bedair ar ôl wyth pelawd.

Ychwanegodd Graeme van Buuren a Chris Dent 36 cyn i Dent gael ei fowlio gan Graham Wagg am 30, ac roedden nhw’n 96 am chwech ychydig ar ôl hanner ffordd trwy’r batiad, wrth i’r wicedwr Chris Cooke ddal Graeme van Buuren i lawr ochr y goes oddi ar fowlio Graham Wagg am 41.

Gobeithion y Saeson ar ben

Ar ôl cyrraedd 126 am chwech ar ôl 30 pelawd, roedd angen 206 arnyn nhw o hyd i ennill, a hynny ar gyfradd o 10.3 y belawd yn erbyn tîm Morgannwg oedd yn parhau i roi pwysau ar y Saeson.

Cwmpodd y seithfed wiced ym mhelawd rhif 33, pan yrrodd Ryan Higgins yn syth i lawr corn gwddf Marchant de Lange oddi ar fowlio’r troellwr coes Marnus Labuschagne am 38, a’r sgôr yn 144.

Cipiodd Billy Root ei wiced gyntaf i’r sir gyda phelen lac, gan roi daliad i Marchant de Lange yn safle’r goes fain bell, a Tom Smith allan am chwech, ar 153 am wyth.

Gyda gobeithion y tîm cartref yn pylu, cyrhaeddodd Jack Taylor ei hanner canred gyda’i ail chwech yn olynol oddi ar fowlio Dan Douthwaite, wrth i’r Saeson fynd y tu hwnt i 200.

Ond cafodd ei ddal gan Jeremy Lawlor yn sgwâr ar ochr y goes am 75 oddi ar fowlio Timm van der Gugten wrth i’w dîm lithro i 234 am naw.

Daeth yr ornest i ben pan gafodd Chris Liddle ei ddal gan Timm van der Gugten oddi ar fowlio Graham Wagg am 12, a Swydd Gaerloyw i gyd allan am 257.