Mae Jeremy Lawlor, y chwaraewr ifanc o Gaerdydd, wedi’i gynnwys yng ngharfan griced Morgannwg ar gyfer eu gêm 50 pelawd yn erbyn Swydd Caint yng Nghwpan Royal London yng Nghaerdydd (dydd Iau, Ebrill 25).

Fe fydd e’n chwarae yn ei gêm Restr A gyntaf i’r sir, ar ôl cael sawl sgôr da a chipio pum wiced mewn batiad yn ddiweddar.

Ond fydd y chwaraewr amryddawn mwy profiadol, Craig Meschede ddim ar gael oherwydd anaf.

Mae Morgannwg yn dal heb fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth ar ôl tair gêm.

“Mae Jeremy Lawlor wedi bod yn bwrw’r drws i lawr,” meddai Matthew Maynard, prif hyfforddwr dros dro Morgannwg.

“Mae e’n haeddu ei gyfle. Mae e wedi gwneud yn dda iawn, felly rydyn ni’n hapus iawn drosto fe.”

Gemau’r gorffennol

Gêm yw hon rhwng dwy sir sy’n dal heb fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth eleni, er bod yr ymwelwyr wedi cyrraedd y rownd derfynol y llynedd.

Dydy’r Saeson ddim wedi ennill gêm 50 pelawd yng Nghaerdydd ers 2007.

Roedd yr ornest ddiwethaf yng Nghymru rhwng y ddwy sir yn danllyd dros ben, gyda 35 o ergydion am chwech yn y gêm, wrth i Darren Stevens sgorio 147 oddi ar 67 o belenni, gan gynnwys 14 chwech wrth gwrso 357 i ennill yn Abertawe.

Cipiodd David Lloyd bum wiced i Forgannwg i sicrhau buddugoliaeth o 15 rhediad.

Morgannwg: J Lawlor, M Labuschagne, D Lloyd, C Hemphrey, B Root, K Carlson, C Cooke (capten), G Wagg, M de Lange, T van der Gugten, L Carey

Swydd Caint: Z Crawley, S Billings, M Renshaw, H Kuhn (capten), A Blake, A Rouse, M Milnes, H Podmore, F Klaassen, I Qayyum, M Claydon

Sgorfwrdd