Mae Morgannwg yn mynd am eu buddugoliaeth gyntaf yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London heddiw (dydd Sul, Ebrill 21), wrth iddyn nhw groesawu Gwlad yr Haf i Erddi Sophia yng Nghaerdydd.

Mae’r chwaraewr amryddawn Jeremy Lawlor wedi cael ei ychwanegu at y garfan am y tro cyntaf y tymor hwn, ac fe allai ymddangos mewn gêm Rhestr A am y tro cyntaf.

Mae e wedi perfformio’n dda i’r ail dîm, gan daro hanner canred yn erbyn Gwlad yr Haf a Swydd Nottingham, a chipio pum wiced yn erbyn Hampshire.

Mae Gwlad yr Haf eisoes wedi curo Swydd Caint, deiliaid y tlws, eleni

Gemau’r gorffennol

Collodd Morgannwg yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton y tymor diwethaf, ar ôl i James Hildreth daro 159 wrth i’r Saeson guro’r Cymry o 83 o rediadau.

Yn 2017, tarodd Jim Allenby 144 yn erbyn ei hen glwb, wrth i Wlad yr Haf ennill o 170 o rediadau.

Morgannwg oedd yn fuddugol o drwch blewyn yn 2013, wrth i Mark Wallace daro 70 i helpu Morgannwg i gwrso’r nod gyda thair pelen ac un wiced yn weddill.

Carfan Morgannwg: C Cooke (capten), L Carey, K Carlson, M de Lange, C Hemphrey, M Hogan, M Labuschagne, J Lawlor, D Lloyd, C Meschede, B Root, A Salter, T van der Gugten, G Wagg

Carfan Gwlad yr Haf: T Abell (capten), Azhar Ali, T Banton, G Bartlett, D Bess, J Brooks, J Davey, L Gregory, T Groenewald, J Hildreth, C Overton, P Trego, R van der Merwe

Sgorfwrdd