Mae Morgannwg a Swydd Northampton yn anghydweld ynghylch cyflwr y llain yng Ngerddi Sophia ar ddiwedd gêm Bencampwriaeth gynta’r tymor.

Tra bod Matthew Maynard, prif hyfforddwr dros dro Morgannwg, yn dweud ei bod yn “llain dda”, mae Alex Wakely, capten yr ymwelwyr, yn dweud ei bod yn “llain wael”.

Cafodd 1,390 o rediadau eu sgorio yn ystod y gêm, a dim ond 19 o wicedi wedi cwympo.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd camau pellach ynghylch cyflwr y cae, gyda rhai yn awgrymu y gallai Morgannwg gael rhybudd.

Llain dda neu wael?

“Batiodd y batwyr yn ymosodol ar lain dda, roedd y bowlwyr yn ddisgybledig a phe baen ni wedi manteisio ar ein cyfleoedd yn y maes, yna mae’n bosib y gallai peth fod wedi bod yn wahanol,” meddai Matthew Maynard.

“Allwn ni ddim gwneud sylw ynghylch y ffordd wnaeth Swydd Northampton chwarae ond pe baen ni wedi bod yn eu sefyllfa nhw, bydden ni’n sicr wedi ymosod mwy, wedi cau’r batiad ac wedi rhoi cynnig ar ennill y gêm.”

Ond mae Alex Wakely wedi beirniadu’r llain.

“Ro’n i’n meddwl ei bod hi’n llain wael iawn ac fel y gwelsoch chi, yn anodd iawn i’r bowlwyr gipio wicedi,” meddai.

“Bowliodd ein bowlwyr am amser hir yn y gêm ddiwethaf yn erbyn Middlesex ac yn y batiad cyntaf yma, ac fe wnaeth les iddyn nhw gael seibiant.

“Roedd yn anodd sgorio’n gyflym a doedden ni ddim yn barod i gau’r batiad.”