Mae Swydd Northampton yn closio at gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg ar ddiwedd trydydd diwrnod y gêm Bencampwriaeth yng Nghaerdydd.

Wrth ymateb i’r 570 am wyth sgoriodd y Cymry, roedd yr ymwelwyr yn 522 am bedair ar ddiwedd y trydydd diwrnod, gyda Rob Keogh yn ddi-guro ar 73 ac Adam Rossington heb fod allan ar 32.

Mae gan Forgannwg flaenoriaeth o 48 ar hyn o bryd.

Cosbi’r bowlwyr eto fyth

Dechreuodd Swydd Northampton y trydydd diwrnod ar 234 heb golli wiced, gyda Ricardo Vasconcelos ar 125 ac fe aeth yn ei flaen i sgorio 184, ei sgôr dosbarth cyntaf gorau erioed.

Rob Newton oedd y batiwr cyntaf allan, wedi’i ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Timm van der Gugten, am 105, a’r sgôr yn 303 am un.

Daeth ail ddaliad i Chris Cooke pan gipiodd Graham Wagg wiced y capten Alex Wakely am 18, a’r sgôr yn 343 am ddwy, a hynny ddwy belen i mewn i sesiwn y prynhawn.

Cwympodd y drydedd wiced bum pelawd yn ddiweddarach ar 353, pan darodd y troellwr coes Marnus Labuschagne goes Ricardo Vasconcelos o flaen y wiced. Sgoriodd e 184, ei sgôr gorau erioed. Roedd ei fatiad yn cynnwys 22 pedwar ac un chwech oddi ar 317 o belenni.

Roedd Rob Keogh a Josh Cobb wedi adeiladu partneriaeth o 100 cyn i Billy Root gipio’i wiced gyntaf i Forgannwg, wrth i Graham Wagg ei ddal yn sgwâr, a’r sgôr yn 453 am bedair.

Llwyddodd Rob Keogh ac Adam Rossington i fynd â Swydd Northampton y tu hwnt i 500, wrth iddyn nhw glosio at gyfanswm batiad cyntaf Morgannwg o 570 am wyth.

Sgorfwrdd