Tarodd Billy Root ganred i Forgannwg ar ail ddiwrnod y gêm gyfeillgar yn erbyn Prifysgolion Caerdydd yr MCC ddoe (dydd Sadwrn, Ebrill 6), ar ôl dweud wrth golwg360 yn ddiweddar ei fod e wrth ei fodd o gael ymuno â’r sir.

Sgoriodd e 108 heb fod allan wrth i Forgannwg gau eu batiad ar 253 am wyth.

Roedd gan rai cefnogwyr amheuon am y chwaraewr newydd, ond mae’n cael ei ystyried gan y sir yn gaffaeliaid ac yn hwb i uned fatio a ddioddefodd dipyn y tymor diwethaf oherwydd diffyg profiad.

“Dw i wrth fy modd yma,” meddai cyn y gêm.

“Mae’r lle yn gyfeillgar iawn ac yn enwedig felly y cae criced, ac mae pawb wedi fy nghroesawu’n gynnes iawn.

“Fe fu’r symudiad yn un arbennig i fi, ac mae wedi bod yn esmwyth hyd yn hyn.

Fe symudodd o Swydd Nottingham ar ddiwedd y tymor diwethaf, ar ôl i’r sir ddenu Ben Slater o Swydd Derby, Ben Duckett o Swydd Northampton a Joe Clarke o Swydd Caerwrangon.

“Ro’n i’n cael sgwrs gydac ambell aelod o staff a’m teulu tra ’mod i yn Swydd Nottingham, ar adeg pan oedd angen i fi fwrw iddi a bod ynghlwm wrth fwy o gemau.

“Doedd y ffordd roedd y garfan yn cael ei hadeiladu yn Swydd Nottingham ddim yn galluogi hynny.

“Felly fe ddaethon ni ynghyd a phenderfynu y byddai symud yn opsiwn da ac roedd Morgannwg, bryd hynny, yn teimlo’n addas iawn.

“Felly dyma fi, a dw i wedi cyffroi’n fawr.”

Pam Morgannwg?

Mae’n dweud bod ymuno â “chriw da o fois” yn un o’r rhesymau pennaf pam ei fod e wedi symud i Forgannwg, yn ogystal â’i hoffter o ddinas Caerdydd.

“Rydych chi’n cerdded i mewn i’r lle hwn ac mae pawb mor gyfeillgar,” meddai.

“Mae’n ymddangos ei fod yn lle braf iawn i fod.

“Dyna’r prif reswm yn fwy nag unrhyw beth arall.

“Mae’n lle braf i fod, a dw i’n edrych ymlaen at gyfrannu ac ennill gemau i Forgannwg.”

Amheuon?

Ar ôl tymor siomedig Morgannwg y tymor diwethaf, a welodd ddiswyddiad y prif hyfforddwr Robert Croft, a swydd Hugh Morris, y prif weithredwr, yn cael ei hollti’n ddwy yn dilyn adolygiad allanol, mae Billy Root yn dweud nad oedd y ffactorau hynny wedi rhoi amheuaeth yn ei feddwl wrth symud i Forgannwg.

Daeth Matthew Maynard yn brif hyfforddwr dros dro, ac mae Mark Wallace bellach yn Gyfarwyddwr Criced.

“Gall y pethau hynny ddigwydd yn ystod y tymor a rhan fwya’r amser, mae’n digwydd mewn cylchoedd,” meddai.

“O’r hyn dw i wedi’i weld hyd yn hyn dros y gaeaf, alla i ddim gweld rheswm pam y byddai’n digwydd eto.

“Mae yna dalent ddifrifol yma ac mae’r bois wedi bod yn gweithio’n galed iawn dros y gaeaf.

“Galla i ein gweld ni’n cael blwyddyn bositif iawn eleni.”