Mae’r wicedwr Chris Cooke wedi’i benodi’n gapten ar Glwb Criced Morgannwg yn y Bencampwriaeth a’r gystadleuaeth 50 pelawd, Cwpan Royal London.

Michael Hogan fu’n arwain y sir yn y Bencampwriaeth ers 2017, a Colin Ingram yn arwain y tîm yng Nghwpan Royal London, y gystadleuaeth 50 pelawd.

Bydd Colin Ingram yn parhau’n gapten ar y tîm yng nghystadleuaeth ugain pelawd y T20 Blast, ond fydd e ddim ar gael ar gyfer Cwpan Royal London oherwydd ei ymrwymiadau yn yr IPL yn India.

Gyrfa Chris Cooke

Chwaraeodd Chris Cooke i Forgannwg am y tro cyntaf yn 2011, gan fynd ymlaen i gynrychioli’r sir mewn mwy na 200 o gemau.

Mae wedi sgorio mwy na 3,000 o rediadau dosbarth cyntaf, gan daro pedwar canred, gan gynnwys 171 heb fod allan yn erbyn Caint yn 2014.

Cafodd ei benodi’n is-gapten y tymor diwethaf.

“Gwneud Cymru’n falch”

“Dw i wrth fy modd o gael derbyn capteniaeth y clwb, sydd yn dipyn o anrhydedd,” meddai Chris Cooke.

“Wnes i fwynhau’r profiad o fod yn is-gapten y tymor diwethaf yn fawr iawn, felly dw i wedi cyffroi o gael derbyn y rôl yn barhaol.

“Wnaethon ni ddim cyrraedd ein potensial y tymor diwethaf, ac mae tipyn y gallwn ni wella arni, ond mae’r bois yn griw talentog iawn a gobeithio y gallwn ni ddangos hynny eleni drwy herio ym mhob cystadleuaeth a gwneud Cymru’n falch.”

“Rhinweddau arweinyddiaeth da”

“Fe wnaeth Chris berfformio’n dda yn ei rôl yn is-gapten y tymor diwethaf, gan ddangos rhinweddau arweinyddiaeth da,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Mae e’n aelod uchel ei barch o’r garfan a dyma amser perffaith i Chris gymryd y cyfrifoldeb ychwanegol wrth i ni geisio gwella ar y cae ac oddi arno y tymor hwn.”

Mae Mark Wallace yn pwysleisio bod Michael Hogan yn “parhau’n rhan allweddol o’n grŵp o arweinwyr”.

“Gobeithio y bydd y newid hwn yn ein helpu ni i reoli ei lwyth gwaith yn fwy effeithiol drwy gydol y tymor, a sicrhau y cawn ni fe ar ei orau dros y blynyddoedd i ddod,” ychwanegodd Mark Wallace.