Bydd Matthew Maynard, prif hyfforddwr dros dro Clwb Criced Morgannwg, yn aros yn y swydd tan ddiwedd y tymor.

Cafodd ei benodi’n wreiddiol i ofalu am y garfan dros y gaeaf yn dilyn y penderfyniad i ddiswyddo Robert Croft yn sgil adolygiad allanol annibynnol.

Collodd Hugh Morris, y prif weithredwr, ei swydd yn Gyfarwyddwr Criced fel rhan o’r un broses, gyda’r cyn-gapten Mark Wallace yn cael ei benodi yn ei le.

Bydd y broses o chwilio am brif hyfforddwr parhaol yn dechrau ar ddiwedd y tymor hwn.

Gyrfa Matthew Maynard

Mae Matthew Maynard yn un o hoelion wyth Clwb Criced Morgannwg, ac yntau wedi arwain y tîm i lwyddiant ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn 1997, ac i rownd derfynol y gwpan undydd yn Lord’s yn 2000.

Fe fu’n Gyfarwyddwr Criced y sir yn y gorffennol hefyd.

Mae ganddo fe brofiad helaeth ar draws y byd, ac yntau wedi bod yn brif hyfforddwr yn y Caribî a De Affrica.

Cafodd ei benodi’n ymgynghorydd batio Morgannwg y tymor diwethaf, yn dilyn tri thymor yn Gyfarwyddwr Criced yng Ngwlad yr Haf.

‘Mae llawer mwy i’w wneud’

“Dw i wrth fy modd o gael arwain y garfan ar drothwy’r hyn a fydd, gobeithio, yn dymor llwyddiannus,” meddai Matthew Maynard.

“Ry’n ni’n gwybod fel criw fod angen i ni wella ar ein perfformiadau y llynedd.

“Mae’r ffordd mae’r bois wedi mynd ati gyda’u gwaith dros y gaeaf wedi fy mhlesio’n fawr.

“Mae llawer mwy i’w wneud, ond rydym yn edrych ymlaen at yr her.”

‘Newyddion gwych i’r clwb’

“Mae’n newyddion gwych i’r clwb fod Matt wedi cytuno i barhau’n brif hyfforddwr dros dro tan ddiwedd y tymor,” meddai Mark Wallace.

“Mae e’n un o’r hyfforddwyr mwyaf profiadol a gwybodus ar y gylchdaith, ac mae e’n nabod y clwb drwyddi draw.

“Mae Matt wedi cael effaith sylweddol yn rhedeg ein rhaglen dros y gaeaf, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â hynny drwy gydol yr haf.”