Mae’r batiwr, Charlie Hemphrey, sy’n enedigol o Doncaster yn Swydd Efrog, wedi ymuno â Chlwb Criced Morgannwg.

Mae’n symud o Queensland yn Awstralia ar gytundeb o ddwy flynedd, ar ôl bod yn cynrychioli’r dalaith wrth ennill y Sheffield Shield y tymor diwethaf.

Ceisiodd y batiwr 29 oed yn aflwyddiannus i gael cytundeb gan siroedd Caint (dair gwaith), Essex a Derby cyn symud i fyw i Brisbane.

Yn sgil ei basport Prydeinig, fydd e ddim yn chwaraewr tramor i Forgannwg.

Mae ganddo gyfartaledd o fwy na 33 gyda’r bat mewn gemau dosbarth cyntaf, ac mae e wedi taro pedwar canred yn ystod ei yrfa, gan gynnwys ei sgôr uchaf, 118.

Mae Hugh Morris, prif weithredwr y sir, yn dweud y bydd yn cynnig cystadleuaeth i’r to iau o Gymry yn y garfan.

‘Diolchgar’

“Fe fu’n uchelgais gen i erioed i chwarae criced dosbarth cyntaf yn y DU, felly dw i’n ddiolchgar iawn i Forgannwg am roi’r cyfle hwn i fi,” meddai.

“Gyda’r newidiadau yn yr adran griced, mae’n adeg gyffrous i ymuno â’r clwb.

“Gobeithio y galla i barhau i berfformio’n dda i Queensland a dod â’r perfformiadau hynny i Forgannwg y tymor hwn.”

Cystadleuaeth i’r to iau

“Mae Charlie yn gricedwr da iawn sydd wedi blodeuo dros y blynyddoedd diwethaf yn Awstralia,” meddai Hugh Morris.

“Mae e wedi sgorio rhediadau o dan amgylchiadau heriol yn erbyn bowlwyr da iawn, felly fe fydd e’n ychwanegu profiad gwerthfawr a sgil ar frig y rhestr fatio.”

Charlie Hemphrey yw’r ail fatiwr newydd i ymuno â’r sir dros y gaeaf, yn dilyn Billy Root o Swydd Nottingham.