Mae cyn-gricedwr Morgannwg, Adrian Dale yn dweud iddo gael “troi’r cloc yn ôl” yng Nghwpan y Byd dros 50 oed yn Awstralia.
Cafodd y chwaraewr amryddawn 50 oed ei eni yn Ne Affrica a’i fagu yng Nghas-gwent, ac mae bellach yn gweithio ym myd criced yn Auckland yn Seland Newydd.
Ar ôl bod yn chwarae criced ar lefel clybiau yn y wlad lle mae’n byw erbyn hyn, fe benderfynodd dderbyn y gwahoddiad i gynrychioli Seland Newydd yn y gystadleuaeth gyntaf erioed.
Cyrhaeddodd y tîm y rownd gyn-derfynol, cyn colli yn erbyn enillwyr y gystadleuaeth, Awstralia.
“Fe wnaeth fy ysbrydoli i,” meddai wrth golwg360. “Fe roddodd nod i fi i gael chwarae’n gystadleuol unwaith eto.
“Roedd fel troi’r cloc yn ôl, ac ro’n i wrth fy modd bob eiliad.”
Llwyddiant
Roedd Adrian Dale yn un o sêr y gystadleuaeth, ac fe gafodd ei enwi ymhlith y tîm o’r deuddeg chwaraewr gorau.
Sgoriodd e 276 o rediadau ar gyfartaledd o 55.20.
Fe greodd e hanes yn ystod y gystadleuaeth, gan daro’r canred cyntaf erioed i unrhyw wlad mewn gêm dros 50 oed a thrwy hynny, y canred cyntaf yng Nghwpan y Byd.
Daeth y batiad hwnnw yn erbyn Canada, wrth iddo sgorio 102 oddi ar 105 o belenni, gan daro wyth pedwar.
“Roedd yn nod gen i sgorio canred yn y twrnament, ac roedd cael yr un cyntaf yn arbennig iawn,” meddai.
Chwarae yn erbyn Cymru
Ac yntau’n Gymro balch, mae’n cyfaddef fod y profiad o chwarae a bod yn gapten yn erbyn ei famwlad yn un “eitha’ rhyfedd”.
Curodd Seland Newydd Gymru o wyth wiced.
“Fe wnaeth Seland Newydd ofyn i fi fod yn gapten ar gyfer y gêm honno, gan eu bod nhw’n gwybod cymaint roedd yn ei olygu i fi,” meddai.
“Cyn pob gêm, fe gawson ni seremoni gyda’r anthemau ac yn y blaen ac yn honno, siaradais i gyda’r ddau dîm am fy malchder wrth fod yn gapten ar Seland Newydd yn erbyn Cymru.
“Wnes i hyd yn oed alw ‘tales for Wales’ yn y dafl – a cholli!”
‘Gallai’r gystadleuaeth fagu coesau’
Ar ôl cael blas ar y gystadleuaeth gyntaf erioed, mae Adrian Dale o’r farn y gallai ddatblygu’n un rheolaidd yn y blynyddoedd i ddod.
Bydd y gystadleuaeth nesaf yn cael ei chynnal yn Cape Town yn Ne Affrica ym mis Mawrth 2020.
“Fe allai fagu coesau,” meddai.
“Doedd dim torfeydd fel y cyfryw, ond roedd y clybiau a wnaeth ein cynnal ni’n frwdfrydig ac fe gafodd y twrnament rywfaint o sylw yn y cyfryngau.
“Roedd y caeau lle chwaraeon ni’n sefyll allan. Caeau clybiau arbennig o dda – lleiniau da, caeau mawr (oedd yn dda i ddim i ni!), ffensys ac yn y blaen. Perffeithrwydd yn nhermau criced!
“Dyma’r lle gorau i chwarae criced ar lefel clybiau.”