Fe fydd tlws Cwpan Criced y Byd yn dod i Gymru ym mis Chwefror, ar drothwy’r gystadleuaeth ym mis Mai a Mehefin.

Bydd y tlws yn ymweld â chlybiau criced, ysgolion, caeau criced a nifer o leoliadau eraill o bwys yn y wlad.

Bydd y daith trwy Gymru’n dechrau yn Stadiwm Principality, a bydd modd i gefnogwyr weld y tlws yn y stadiwm yn ystod gêm rygbi Cymru yn erbyn Lloegr ar ddydd Sadwrn, Chwefror 23.

O’r fan honno, bydd y tlws yn teithio o amgylch y byd cyn dychwelyd i Gymru ar gyfer gêm ugain pelawd Lloegr yn erbyn Pacistan yng Ngerddi Sophia ar Fai 5.

Ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc, fe fydd yn ymweld â thraeth Porthcawl, lle bydd y clwb criced lleol yn cynnal gêm ar y traeth. Bydd yn mynd wedyn i gastell Caerffili, ac yna i brosiect criced yn Abercynon.

Y diwrnod canlynol (Mai 7), bydd y tlws yn cyrraedd castell Caerdydd, cyn mynd yn ei flaen i adeilad hanesyddol Tŷ Tredegar ac yna i gastell Cil-y-coed.

Ar y dydd Mercher (Mai 8), fe fydd yn mynd i Ysgol Gynradd Eastern ym Mhort Talbot ac yna i draeth Pen-bre yn Sir Gâr ac i gastell Penfro, lle bydd 150 o blant yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth griced dan naw oed.

Ar y diwrnod olaf (Mai 9), bydd y tlws yn ymweld â Zip World yn Eryri, cyn teithio i draeth a chlwb criced yn yr ardal.

Bydd Cwpan y Byd yn dechrau ym mis Mai, ac mae Gerddi Sophia yn cynnal pedair gêm rhwng Mehefin 1 a 15.