Fe fydd Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf yn rhoi hwb i glybiau criced ar lawr gwlad yng Nghymru, diolch i fenter newydd ar y cyd rhwng y Bwrdd Criced Rhyngwladol a Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.

Wrth i Gwpan y Byd ddychwelyd i Gymru a Lloegr y flwyddyn nesaf – a hynny am y tro cyntaf ers ugain mlynedd – gall y 2,000 o glybiau cyntaf yn y ddwy wlad i gofrestru wneud cais am £1,000 er mwyn gwella cyfleusterau at ddibenion digideiddio neu uwchraddio eu cyfleusterau arlwyo.

Bydd hyn yn cynnwys sefydlu cyswllt band llydan a chyflwyno cyfleoedd technoleg clywedol a gweledol.

Diben y fenter yw creu cyswllt agos rhwng y clybiau criced a’u cymunedau lleol drwy sefydlu gweithgareddau i’r teulu yn ystod Cwpan y Byd 2019. Bydd yr holl glybiau sy’n cymryd rhan yn derbyn pecynnau marchnata i’w helpu.

Mae trefnwyr y gystadleuaeth yn gobeithio denu miliwn o blant i’r gemau, wrth i Gaerdydd gynnal gemau rhwng Lloegr a Bangladesh, Afghanistan a Sri Lanca, Seland Newydd a Sri Lanca, a De Affrica ac Afghanistan.

Mehefin 7-9 fydd prif benwythnos yr ymgyrch, ond bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal drwy gydol y gystadleuaeth rhwng Mai 30 i Orffennaf 14.

‘Cyfle gwych’

“Mae menter Clybiau Cwpan Criced y Byd yn gyfle gwych, ac yn un dw i’n annog cynifer o glybiau lleol yng Nghymru a Lloegr â phosib i gofrestru ar ei gyfer,” meddai Cyfarwyddwr Cyfranogiad a Thwf dros dro Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, Nick Pryde.

“Mae Cwpan Criced y Byd yr ICC yn 2019 yn cynnig cyfle enfawr i ni ddenu cenedlaethau newydd o gefnogwyr a chwaraewyr, bechgyn a merched i’r gêm, a fydd yn chwarae mewn clybiau amrywiol, modern ac addas i’r teulu.”

‘Ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf’

“Mae Cwpan Criced y Byd yr ICC yn dychwelyd i Gymru a Lloegr am y tro cyntaf ers ugain mlynedd, ac mae’n bwysig ein bod ni’n manteisio ar y cyfle hwn i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf,” meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Cwpan Criced y Byd yr ICC yn 2019, Steve Elworthy.

“Trwy’r fenter hon, rydym yn annog clybiau lleol i ddod yn Glwb Cwpan Criced y Byd, ac i agor eu drysau i’w cymuned leol a thrwy drefnu diwrnodau i’r teulu, fe fydd yn gyfle gwych i ymgysylltu â chenhedlaeth newydd o gefnogwyr a chwaraewyr.”