Amgueddfa Griced Cymru yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd yw’r amgueddfa griced gyntaf yng ngwledydd Prydain i gael achrediad llawn.

A hithau’n ddiwedd Wythnos Amgueddfeydd Cymru, fe fu’r Gweinidog Diwylliant, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn yr amgueddfa yr wythnos hon i gyflwyno tystysgrif i’r curadur, Dr Andrew Hignell.

Cafodd ei hagor yn 2012 a dwy flynedd yn ddiweddarach, enillodd Wobr Kieran Hegarty am Arloesedd yn ystod gwobrau’r Ŵyl Gyfryngau Celtaidd, a hynny am gyfres o straeon digidol a ffilm.

Mae’r amgueddfa hefyd yn cynnwys llinell amser, sy’n nodi rhai o brif ddigwyddiadau’r byd criced yng Nghymru, ac yn dathlu prif orchestion tîm criced Morgannwg.

Yn ystod ei ymweliad, fe fu’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn siarad â disgyblion o Ysgol Gynradd Pencae yng Nghaerdydd.

‘Wrth ein boddau’

“Rydym wrth ein boddau o fod wedi derbyn statws Achrediad Llawn,” meddai curadur ac archifydd yr amgueddfa, Dr Andrew Hignell.

“Fe fu’n daith hir ers i ni dderbyn y cymorth grant cyntaf gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Chroeso Cymru, ond fe fu’n un gynhyrchiol iawn.

“Mae bod yr amgueddfa griced gyntaf yn y DU i’w hachredu’n llawn yn dyst i ymdrechion y tîm ffyddlon ac ymroddedig o wirfoddolwyr sydd wedi helpu’n ddiflino i ofalu a chadw’r casgliad yng Ngerddi Sophia ac mewn storfa yn Archifau Morgannwg, labelu a thynnu lluniau gwrthrychau, a chreu catalog rhyngweithiol llawn o eitemau a fydd, yn y dyfodol agos, ar gael ei ymwelwyr ac arlein.”

‘Llongyfarchiadau’

“Hoffwn longyfarch y tîm yn Amgueddfa Griced Cymru CC4 – ac roedd yn bleser cyhoeddi’n ffurfiol yr achrediad hwn sy’n gwneud yr amgueddfa’n le arbennig – ac unigryw – yn y DU,” meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

“Gall ymwelwyr â’r amgueddfa ddysgu mwy am hanes y gêm yn erbyn cefnlen y stadiwm bresennol – a chael chwarae rhywfaint o griced yn ystod eu hymweliad.

“Mae’r amgueddfa’n ffordd wych o hysbysu ac ysbrydoli cenedlaethau o chwaraewyr y dyfodol.”