Mae Clwb Criced Morgannwg wedi dechrau’r broses o chwilio am Gyfarwyddwr Criced newydd.

Daw’r hysbyseb ar ôl i Hugh Morris, y prif weithredwr, roi’r gorau i’r rôl yn dilyn adolygiad allanol o’r clwb yn dilyn tymor siomedig eleni.

Mae Morgannwg hefyd yn chwilio am brif hyfforddwr newydd, yn dilyn y penderfyniad i ddiswyddo Robert Croft. Ond fe fydd y swydd honno’n cael ei hysbysebu ar ôl i’r Cyfarwyddwr Criced gael ei benodi.

Mae’r hysbyseb yn pwysleisio pwysigrwydd arwyddair Morgannwg, sef eu bod am “wneud Cymru’n falch”.

Manyleb y swydd

Yn ôl yr hysbyseb, mae Clwb Criced Morgannwg yn chwilio am Gyfarwyddwr Criced i “baratoi, cyfarwyddo a chyflwyno strategaeth” y clwb er mwyn sicrhau “llwyddiant cynaliadwy ym mhob fformat o’r gêm”.

Gorffennodd Morgannwg ar waelod y Bencampwriaeth y tymor diwethaf, a doedden nhw ddim wedi cyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth ugain pelawd na’r gystadleuaeth 50 pelawd.

Bydd y Cyfarwyddwr Criced hefyd yn gyfrifol am gytundebau, recriwtio, rheoli a chydlynu chwaraewyr hŷn y clwb, yn ogystal â sicrhau perfformiad y chwaraewyr presennol drwy “greu awyrgylch lle mae gan y chwaraewyr rym i baratoi a pherfformio i’r safonau uchaf ar y cae ac oddi arno”.

Un o’r prif ddadleuon y tymor diwethaf oedd bod prinder chwaraewyr profiadol yn y garfan wedi costio’n ddrud i’r sir.

Bydd gan y Cyfarwyddwr Criced newydd gyfrifoldeb hefyd am ddyletswyddau gweinyddol, gan gynnwys trefniadau teithio, llwybrau hyfforddi, trefniadau meddygol a rhoi adborth i’r tirmon am y cae, gan gynnwys pan fydd Lloegr yn ymweld â Gerddi Sophia.

Mae’r hysbyseb hefyd yn gofyn am Gyfarwyddwr Criced all “sicrhau bod prif hyfforddwr a chapten Morgannwg yn rhoi arweiniad effeithiol i’r tîm”.

Ansicrwydd o hyd

Yr awgrym ar hyn o bryd yw mai’r prif hyfforddwr newydd fydd yn dewis y capten neu gapteiniaid ar gyfer y tymor nesaf, a’r Cyfarwyddwr Criced yn rhoi ei sêl bendith.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd Michael Hogan yn parhau’n gapten ar y tîm yn y Bencampwriaeth, na chwaith a fydd Colin Ingram yn parhau’n gapten ar y tîm yn y cystadlaethau undydd.