Bydd Cyfres y Lludw – gornest griced enwog rhwng Lloegr ac Awstralia – yn dychwelyd i Gaerdydd yn 2015.

Roedd swyddogion Clwb Criced Morgannwg wedi bod yn aros yn eiddgar ers tua chew mis i gael clywed y newyddion gwych bod un o’r gemau i’w cynnal yng Nghaerdydd.

Cafodd coffrau’r clwb o Gymru eu chwyddo’n sylweddol pan ymwelodd Cyfres y Lludw â Stadiwm Swalec yn 2009, a’r gobaith yw elwa unwaith yn rhagor.

Mae Clwb Criced Morgannwg wedi wynebu anhawsterau ariannol yn ddiweddar.

 Cheryl am griced

 Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ffan pybyr o griced, ac yn credu y bydd ymweliad Cyfres y Lludw â’r de yn hwb i’r economi.

 “Dyma newyddion gwych sy’n cydnabod pa mor llwyddiannus wnaeth Caerdydd wrth gynnal gêm brawf y Lludw yn 2009,” meddai Cheryl Gillan.