Mae chwaraewr amryddawn Morgannwg, David Lloyd wedi ymestyn ei gytundeb gyda’r sir am ddwy flynedd arall.

Mae’n cadw’r gogleddwr o Wrecsam gyda’r sir tan ddiwedd tymor 2021, gan fod ganddo fe flwyddyn yn weddill o’i gytundeb blaenorol.

Mae’n gyfnod ansicr i bolisi’r sir o feithrin doniau chwaraewyr o Gymru, wrth i’r sir chwilio am brif hyfforddwr a chyfarwyddwr criced newydd, yn dilyn diswyddo Robert Croft ac ymadawiad Hugh Morris, sy’n parhau’n brif weithredwr.

Ac yntau wedi dod drwy rengoedd y sir, fe ddaeth David Lloyd yn aelod o’r tîm cyntaf yn 2012, gan sgorio dros 2,200 o rediadau dosbarth cyntaf ers hynny.

Mae e wedi taro canred dosbarth cyntaf bedair gwaith, gan gipio dros 50 o wicedi.

Fe darodd ei sgôr gorau erioed mewn gêm dosbarth cyntaf yn 2018, sef 119 yn erbyn Swydd Gaerloyw. Fis yn ddiweddarach, sgoriodd e 92 yn erbyn Middlesex yng nghystadleuaeth 50 pelawd Cwpan Royal London – ei sgôr gorau erioed mewn gêm Rhestr A.

‘Balch dros ben’

Wrth ymateb i’w gytundeb newydd, dywedodd David Lloyd, “Mae’n amlwg yn beth cyffrous, a dw i’n falch dros ben o gael ymestyn fy nghytundeb efo Morgannwg.

“Mae gynnon ni gnewyllyn da o hogia ifainc yn dod drwodd, a gobeithio fedrwn ni wthio yn ein blaena’ y tymor nesa’ fel tîm, a dw i’n edrych ymlaen yn arw at fod yn rhan ohono fo.

“Yn 26 oed, dw i rŵan yn un o’r chwaraewyr hŷn yn y clwb, a dw i am wthio ymlaen dros y tymhorau nesa’ a sgorio digon o rediada’ a chipio digon o wicedi i ennill gemau i Forgannwg a Chymru.”

‘Perfformiwr’

Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris, “Daeth David drwy ein system llwybrau, ac mae wedi bod yn falch o gynrychioli’r sir ers rhai blynyddoedd.

“Mae wedi profi ei hun fel perfformiwr ar draws y tri fformat gyda’r bat a’r bêl, ac fe gafodd e dymor cryf cyn i anafiadau gwtogi’r tymor hwnnw.

“Gobeithio y bydd yn rhoi’r anafiadau y tu cefn iddo’r flwyddyn nesaf, ac y gall barhau i wella a chyflawni ei dalent ddiamheuol.

“Fel sir, rydym yn parhau i weithredu strategaeth o ddatblygu ein chwaraewyr ifainc a rhoi cyfle iddyn nhw greu argraff yn y tîm cyntaf, ac mae David yn esiampl wych o’r broses honno. Rydym yn falch iawn ei fod yn aros gyda Morgannwg.”