Mae’n “ddiwrnod trist iawn i Glwb Criced Morgannwg”, yn ôl y prif weithredwr Hugh Morris, sydd wedi ymateb i’r penderfyniad i ddiswyddo’r prif hyfforddwr Robert Croft.

Daeth y cyhoeddiad ar ddiwedd adolygiad allanol annibynnol, sydd hefyd wedi gweld Hugh Morris yn rhoi’r gorau i fod yn Gyfarwyddwr Criced.

Bydd Morgannwg yn dechrau’r broses o chwilio am brif hyfforddwr newydd ar ôl i’r cyfarwyddwr criced newydd gael ei benodi.

Cafodd Morgannwg dymor siomedig yn 2018, wrth orffen ar waelod y Bencampwriaeth, a methu â chyrraedd rowndiau olaf y naill gystadleuaeth undydd na’r llall.

Ymateb Hugh Morris

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Hugh Morris, “Dw i’n amlwg wedi adnabod ac wedi chwarae gyda Robert ers amser hir iawn, ac wedi cydweithio’n agos iawn gyda fe.

“Mae gan nifer fawr ohonon ni galonnau trwm heddiw. Mae e wedi byw a bod gyda Morgannwg ers dros 30 o flynyddoedd, a bydd e bob amser yn un o’n llysgenhadon ni.”

“Roedd y tymor yn un siomedig, does dim modd osgoi hynny. Roedden ni’n gwybod ar ddechrau’r tymor mai ein strategaeth oedd ceisio gorffen yn hanner ucha’r tabl gyda nifer o chwaraewyr lleol sydd wedi cael eu datblygu trwy ein rhaglenni datblygu.

“Roedden ni am sicrhau bod nifer o bileri o brofiad yn y tîm ochr yn ochr â’r chwaraewyr ifainc, ond doedden nhw ddim yno.

“Yn y pen draw, roedd llawer o chwaraewyr ifainc mewn awyrgylch heriol, ac roedd y canlyniadau’n adlewyrchu’r ffaith ein bod ni wedi cael tymor siomedig.”